28 Gorffennaf 2022
Yr wythnos nesaf bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn penderfynu a ddylid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol i gynorthwyo gyda dewis safle ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd rhywle yn y parth rhwng ac yn cynnwys Arberth a Sanclêr.
Mae cyfarfod arbennig o’r bwrdd iechyd yn cael ei gynnal am 9.30am ddydd Iau 4 Awst 2022 ac un o’r argymhellion yn yr adroddiad sy’n cael ei drafod, a’i gefnogi gan y corff gwarchod annibynnol Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda, yw cynnal proses ymgynghori cyhoeddus.
Mae llawer iawn o waith eisoes wedi’i wneud i adolygu pum safle posibl ar gyfer yr ysbyty newydd arfaethedig – un yn Arberth, dau safle ger Hendy-gwyn ar Daf a dau ger Sanclêr – gyda chynrychiolwyr y cyhoedd a chleifion, staff clinigol ac anghlinigol, a rhanddeiliaid gan gynnwys sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus. Mae’r broses wedi cael ei dyfarnu i’r arferion gorau gan y corff annibynnol y Sefydliad Ymgynghori, ond mae’r bwrdd iechyd o’r farn y dylai’r cam nesaf fod yn ymgynghoriad ffurfiol â’r cyhoedd, er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn ehangach yn cael cyfle i ystyried yr opsiynau.
Cyn y cyfarfod, dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu Strategol a Chynllunio Gweithredol Hywel Dda, Lee Davies: “Rydym mor ddiolchgar am y gwaith sylweddol sydd wedi’i wneud yn ystod y broses arfarnu a bydd hwn yn cael ei gyflwyno i’r bwrdd iechyd yr wythnos nesaf. Mater i’r bwrdd fydd penderfynu pa safleoedd y dylid eu datblygu i’w hystyried ymhellach ac ymgynghoriad cyhoeddus a argymhellir gan fod hyn yn rhan mor sylfaenol o’n darpariaeth gwasanaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Hwn fyddai’r cam nesaf tuag at strategaeth hirdymor y bwrdd iechyd ar gyfer canolbarth a gorllewin Cymru iachach. Mae’n dilyn cyflwyno achos busnes rhaglen i Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni, yn ceisio mwy na biliwn o bunnoedd o fuddsoddiad yn yr adeiladau a’r seilwaith cyfalaf yng ngorllewin Cymru.
Galluogwr sylfaenol i fuddsoddi mwy mewn iechyd a gofal cymunedol ac ataliol, ac i ymdrin â heriau hirsefydlog yn y system iechyd a gofal yn yr ardal yw darparu ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd.
Y parth, rhywle rhwng ac yn cynnwys Arberth a Sanclêr, yw’r mwyaf canolog ar gyfer mwyafrif y boblogaeth yn y de ac fe’i pennwyd fel rhan o’r ymgysylltu, datblygu opsiynau ac ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng 2017 a 2018.
Bydd cyfarfod y bwrdd iechyd yn clywed allbynnau gan bedwar grŵp arfarnu tir ar wahân, gan ganolbwyntio’n unigol ar ystyriaethau technegol, clinigol, gweithlu ac ariannol/economaidd y safleoedd a’r ardaloedd posibl yn y parth.
O’r adroddiadau, nid oes safle ‘a ffefrir’ ar hyn o bryd gan fod ystod o wahanol dystiolaeth, effeithiau a safbwyntiau i’w hystyried.
Sgoriodd y grŵp gwerthuso technegol, sy'n cynnwys mwyafrif y cyhoedd o bob rhan o'n hardaloedd yn ogystal â staff, y safleoedd posibl gan ystyried meini prawf technegol pwysol ac adborth o ymgysylltu â'r cyhoedd. Roedd gan bedwar o’r pum safle sgoriau tebyg iawn, gyda dim ond un o’r safleoedd ger Sanclêr yn sgorio’n sylweddol is nag eraill.
Ystyriodd dau grŵp clinigol penodol – un ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol, obstetreg a phaediatreg ac un arall ar gyfer gwasanaethau strôc – oblygiadau lleoli’r ysbyty newydd naill ai ymhellach i’r dwyrain, yn ganolog neu ymhellach i’r gorllewin o fewn y parth.
Canfu’r grŵp arbenigol gwasanaethau newyddenedigol, obstetreg a phediatreg o’r tair ardal ddaearyddol yn y parth, y rhai sydd bellaf i’r dwyrain gyflwyno’r risg glinigol leiaf i wasanaethau. Roedd mynychwyr y gweithdy o'r farn y byddai safle ymhellach i'r dwyrain i'r parth yn well. Roeddent yn pryderu bod y parth yn cyflwyno risg o ostyngiad mewn màs critigol o gleifion, oherwydd y potensial i bobl yn y dwyrain fynychu gwasanaethau mewn mannau eraill ac yn arwain at ostyngiad yn nifer y genedigaethau, a derbyniadau newyddenedigol a phediatrig. Roedd hyn y tu allan i gwmpas yr arfarniad a chytunwyd ar y parth daearyddol yn dilyn ymgysylltu ac ymgynghori yn 2018.
Dywedodd y grŵp arbenigol ar gyfer gwasanaethau strôc y byddai unrhyw ran o’r parth yn addas oherwydd y ffocws ar lwybrau a sut mae cleifion yn cael eu trin y tu hwnt i’w derbyniad cychwynnol. Fodd bynnag, dywedodd y byddai'r safleoedd yn y canol neu'r dwyrain yn well am resymau'n ymwneud â mynediad at y gweithlu.
Roedd yr arfarniad o’r gweithlu yn canolbwyntio ar yr effaith hygyrchedd ar weithlu’r Bwrdd Iechyd. Roedd y dystiolaeth a ystyriwyd gan y grŵp yn cynnwys dadansoddiad amser teithio ac effaith a risg staffio posibl. Nododd y grŵp y byddai effaith ar y rheini sy’n draddodiadol yn gallu gweithio’n lleol i’w cartrefi a’r rheini sy’n rhesymol ddisgwyl teithio yn gysylltiedig â’u proffesiynau. Byddai strategaethau gwahanol i leihau'r effaith hon yn cael eu mabwysiadu wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Roedd y grŵp yn ei chael yn anodd i ddweud a fyddai safle ymhellach i'r dwyrain yn cael mwy o effaith ar sicrhau gweithlu cynaliadwy yn gyffredinol, gan gynnwys ar gyfer recriwtio.
Roedd yr arfarniad ariannol ac economaidd yn canolbwyntio ar arfarnu’r broses a’r canlyniadau y gallai fod eu hangen ar gyfer cyllid cyfalaf a’r camau nesaf o ran caffael tir. Canfu fel canran o gostau amcangyfrifedig cyffredinol y datblygiad, nad oedd llawer i wahaniaethu rhwng gwahanol safleoedd.
Bydd y Bwrdd Iechyd hefyd yn cael gwybodaeth am yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd trosfwaol a pharhaus a sut mae pobl â nodweddion gwarchodedig yn cael eu cynnwys a’u hystyried a sut y bydd unrhyw effeithiau negyddol ar bobl yn cael eu lleihau.
Gallwch wylio’r cyfarfod ar ffrwd fyw, a bydd dolen ar gael ar wefan (agor yn dolen newydd) y Bwrdd Iechyd.