Neidio i'r prif gynnwy

Trefnwch eich brechlynnau ffliw a COVID-19 heddiw

12 Ionawr 2024

Bydd clinigau brechu dros dro yn cael eu cynnal yn Fferyllfa Talybont (4 Tyrrel Place, SY24 5HA) ar gyfer pobl gymwys sydd dal angen eu brechlyn ffliw a/neu brechlyn atgyfnerthu COVID-19 o hyd.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) wedi cadarnhau y bydd tri chlinig yn cael eu cynnal yn y fferyllfa, sydd drws nesaf i garej Murco, a hynny drwy apwyntiad yn unig ar 16, 23 a 24 Ionawr.

I drefnu apwyntiad ffoniwch y bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 neu e-bostiwch ask.hdd@wales.nhs.uk.

Os ydych chi’n ansicr a ydych chi’n gymwys i gael y brechlyn ffliw a/neu COVID-19, ewch i phw.nhs.wales/topics/immunisation-and-vaccines/flu-vaccine-and-covid-19-autumn-booster neu cysylltwch â’r bwrdd iechyd ar y manylion uchod.

Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn parhau i redeg canolfannau brechu galw heibio (lle and oes angen apwyntiad) drwy gydol mis Ionawr yng Nghwm Cou, Neyland, Caerfyrddin a Llanelli ar gyfer pobl gymwys 18 oed a hŷn ar gyfer y brechlyn ffliw, a 12 oed a hŷn ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu COVID-19.

  • Cwm Cou (Ysgol Trewen, Castell Newydd Emlyn SA38 9PE) – 9.30am i 5.30pm, Dydd Llun – Dydd Gwener
  • Llanelli (Uned 2a, Stad Ddiwydiannol Dafen, Heol Cropin, SA14 8QW) – 9.30am i 5.30pm, Dydd Llun – Dydd Iau.
  • Neyland (Uned 1 Parc Manwerthu Honeyborough, SA73 1SE) – 9.30am i 5.30pm, Dydd Llun – Dydd Gwener
  • Caerfyrddin (Clwb Criced Wanderers, Caeau’r Drindod, Tre Ioan, SA31 3NE) – 10am i 5pm pob dydd Gwener.

Gall y ffliw a COVID-19 fod yn salwch difrifol ac mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn gweithredu i amddiffyn ein hunain a’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.