Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Smygu a Llesiant yn fuddugol yng Ngwobrau Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru 2023

Group of people holding an award

10 Hydref 2023

Mae Tîm Smygu a Llesiant Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ennill y wobr am y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Gorau yng Ngwobrau Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru 2023.

Cydnabuwyd y tîm am ddarparu gwasanaeth hyblyg sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer y rhai sydd â phrofiadau byw iechyd meddwl sydd am roi'r gorau i ysmygu neu gwtogi ar eu ‘smygu.

Dywedodd beirniaid Gwobrau Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru 2023: “Mae yna lawer o ffactorau sy’n chwarae rhan yn y rhesymau pam y gallai iechyd meddwl rhai pobl ddirywio, ac weithiau, gall hyn arwain at ddibyniaeth ar alcohol a chyffuriau a’u tebyg. Mae enillydd y categori hwn yn chwifio’r faner am fynd i’r afael â’r ddibyniaeth sy’n dal yn gyson ym mywydau llawer o bobl – sef ysmygu. Yn aml, gallwn anghofio bod rhai pobl yn troi at ddefnyddio sigaréts fel ffordd drwy eu cyflyrau iechyd meddwl, gan ei ddefnyddio fel ateb tymor byr. Mae Tîm Ysmygu a Llesiant Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn blaenoriaethu cymorth i bobl sy’n dymuno gwella eu hiechyd meddwl a’u llesiant drwy roi’r gorau i ysmygu.”

Dywedodd Dr Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Rwyf wrth fy modd bod ein Tîm Smygu a Llesiant wedi cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol yng Ngwobrau Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru eleni  – mae hwn yn fater iechyd cyhoeddus pwysig a hoffwn eu llongyfarch am y cyflawniad rhagorol hwn.

"Yn sgil newidiadau diweddar mewn deddfwriaeth, daeth ardaloedd cleifion mewnol iechyd meddwl yn ardaloedd di-fwg ym mis Medi 2022 ledled Cymru, yn unol â gweddill safleoedd ysbytai, felly mae gweld ein tîm yn cael ei gydnabod am wasanaeth rhagorol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gyflawniad sylweddol.

Dywedodd Joanna Dainton, Pennaeth Gwella Iechyd a Llesiant y Boblogaeth yn Hywel Dda: "Gweithiodd ein tîm Smygu a Llesiant  yn hynod o galed  i sicrhau bod cynlluniau ar waith i gefnogi cleifion a staff  yn ystod y newid hwn trwy ddarparu hyfforddiant i staff, ymweliadau wythnosol ag ardaloedd cleifion mewnol a sicrhau mynediad cyflym at therapi amnewid nicotin."

Dywedodd Lucy Duncanson, Uwch Ymarferydd Smygu a Llesiant o Dîm Gwella Iechyd y Boblogaeth Iechyd Cyhoeddus BIP Hywel Dda: "Rydym yn falch bod ein gwaith i helpu cleientiaid iechyd meddwl i wella eu hiechyd a lleihau ysmygu wedi cael ei gydnabod.

"Rydym wedi llwyddo i wella ein gwasanaeth safonol i estyn allan at y rhai sydd â chyflyrau iechyd meddwl i'w cefnogi i leihau eu dibyniaeth ar dybaco. Rydym hefyd wedi gweithio i sicrhau ein bod yn hyblyg gyda'r cymorth a ddarparwn, gan ei deilwra i ddiwallu anghenion cleientiaid unigol yn hytrach na disgwyl i gleientiaid gyd-fynd â model gwasanaeth traddodiadol.

Dywedodd Cath Einon, Rheolwr Datblygu Gwasanaeth y Tîm Smygu a Llesiant, "Rwy'n hynod falch o waith y tîm cyfan.  Mae'r tîm bron wedi dyblu nifer yr ysmygwyr sy'n cael eu cefnogi, sydd hefyd â chyflyrau iechyd meddwl, yn ystod y 12 mis diwethaf ac yn parhau i ddarparu cefnogaeth gyfrinachol am ddim i'r holl staff, cleifion a'r cyhoedd yn Hywel Dda sy'n dymuno rhoi'r gorau i ysmygu."

Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru 2023 ar 2 Hydref yn y Gynhadledd Iechyd Meddwl a Llesiant yng Nghaerdydd.

Os ydych chi’n ystyried rhoi'r gorau i ysmygu ac yn byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro, cysylltwch â Thîm Smygu a Llesiant Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gael cyngor a chefnogaeth am ddim drwy ffonio 0300 303 9652, e-bostio smokers.clinic@wales.nhs.uk neu drwy ymweld â thudalen Tîm ysmygu a lles - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru) a llenwi ffurflen atgyfeirio ar-lein.

Llun: (Chwith i’r dde) Yn derbyn y wobr gan gynrychiolydd o’r Gwobrau Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru 2023 mae tîm Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: Trystan Sion, Fiona Edwards, Stacy Baker a Cath Einon