Neidio i'r prif gynnwy

Tîm mamolaeth yn ennill gwobr am ddiogelwch cleifion

Dydd Mawrth, 24 Hydref 2023

Llongyfarchiadau i Dîm Gwasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a enillodd Wobrau Diogelwch Cleifion HSJ 2023 yn y categori Datblygu Diwylliant Diogelwch Cadarnhaol. Roeddent hefyd wedi cyrraedd rownd derfynol y categori Addysg a Hyfforddiant Diogelwch Cleifion.

Cydnabuwyd y tîm am eu hymdrechion i newid diwylliant y gweithle o amgylch digwyddiadau niweidiol mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol.

Mae’r tîm buddugol yn cynnwys Cerian Llewelyn, Bethan Osmundsen, Miss Tipswalo Day, Mr Matthew Pickup, Mr Ihab Abbasi, Mr Letchuman Shankar, Lisa George, Faith Wirral, Kristy Hutch, Sian Thomas, Elizabeth Rees, Alison Jones, Lynn Hurley, Emma Booth, Manal Elbadrawy, Mr Prem Kumar, Sandra Pegram a Kirsty Harrington Butcher.

Mynychodd aelodau’r tîm y seremoni wobrwyo ym Manceinion yn ddiweddar.

Dywedodd y Pennaeth Bydwreigiaeth Kathy Greaves: “Mae sicrhau bod ein darpar famau a’n staff yn teimlo’n ddiogel ac yn cael gofal da yn ystod eu hamser yn ein hunedau mamolaeth ar draws ardal Hywel Dda yn hynod bwysig i ni. Felly mae'r wobr hon yn gydnabyddiaeth o'n holl waith caled a'n cynnydd. Llongyfarchiadau mawr i’r tîm a diolch am eich holl ymroddiad a gwaith caled.”

Ychwanegodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rwy’n falch iawn o Kathryn a’r tîm – maent yn gweithio’n hynod o galed i sicrhau bod rhieni’n teimlo eu bod yn cael y profiad gorau posibl yn ystod eu hamser yn ein gwasanaeth. Diolch i bob aelod o’r tîm sydd wedi chwarae eu rhan i ennill y wobr.”

Mae Gwobrau Diogelwch Cleifion HSJ yn helpu i ysgogi gwelliannau mewn diwylliant ac ansawdd ar draws y GIG. Mae'r gwobrau'n cydnabod ac yn gwobrwyo'r timau a'r unigolion gweithgar sydd, yn y cyfnod hwn o galedi, cyfyngiadau cyflog a phrinder gweithlu, yn ymdrechu i ddarparu gwell gofal i gleifion.

Diwedd