Neidio i'r prif gynnwy

Statws Ymwybyddiaeth Cyn-filwr i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

23 Mehefin 2023

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yw’r diweddaraf i ennill achrediad Ymwybyddiaeth Cyn-filwyr (Veteran Aware), gan gydnabod yn ffurfiol ei ymrwymiad i gymuned y Lluoedd Arfog.

Mae’r achrediad yn golygu bod 153 o sefydliadau GIG Lloegr a phedwar sefydliad GIG Cymru bellach wedi’u hachredu fel Veteran Aware.

Nod Cynghrair Gofal Iechyd y Cyfamod i Gyn-filwyr (VCHA) yw achredu pob ymddiriedolaeth a bwrdd iechyd erbyn mis Mawrth 2024.

Nod y VCHA yw datblygu, rhannu a llywio’r gwaith o weithredu arfer gorau a fydd yn gwella gofal Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog, tra ar yr un pryd yn codi safonau i bawb, yn seiliedig ar egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog.

Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid gan y genedl i sicrhau bod y rhai sy’n gwasanaethu, neu sydd wedi gwasanaethu, yn y Lluoedd Arfog, a’u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg.

Dywedodd Arweinydd Cenedlaethol VCHA, yr Is-gyrnol Retd Guy Benson: “Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dangos yn gryf ei ymrwymiad i fod yn Ymwybodol o Gyn-filwyr i gleifion a staff ac wrth gynnwys hyn yn ei fusnes bwrdd ehangach i wneud yn siลตr bod staff yn deall anghenion cymuned y lluoedd arfog.

Dywedodd Cadeirydd VCHA, yr Athro Tim Briggs CBE: “Mae mwy a mwy o ymddiriedolaethau a byrddau iechyd yn gweld gwerth achrediadau Veteran Aware fel y gwelir yn y niferoedd sydd bellach wedi’u hachredu. Roeddwn am ddiolch i deulu ehangach y GIG yng Nghymru sy’n gweithio’n ddiflino ar ran y gymuned filwrol er gwaethaf y pwysau niferus a fydd arnynt. Da iawn chi gyd.”

Dywedodd Anna Bird, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaethau Strategol, Amrywiaeth a Chynhwysiant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae BIP Hywel Dda yn falch o ennill gwobr Ymwybyddiaeth Cyn-filwyr trwy Gynghrair Gofal Iechyd y Cyfamod i Gyn-filwyr.

“Mae gan y bwrdd iechyd ymrwymiad hirsefydlog i gymuned y lluoedd arfog. Ar ôl llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog yn wreiddiol yn 2013, ailgadarnhaodd y bwrdd iechyd ei ymrwymiad ac enillodd wobr Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwr Amddiffyn yn 2021.

“Y llynedd mabwysiadwyd y Safon Balchder mewn Cyn-filwyr (PiVS) ac rydym yn gweithio gyda Fighting with Pride i sicrhau y gallwn ddangos yn amlwg ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth cynhwysol a chroesawgar i Gyn-filwyr LHDT+.

“Fel bwrdd iechyd, rydym wedi ymrwymo i wella’r canlyniadau llesiant i bob Cyn-filwr ac aelod o gymuned y lluoedd arfog sy’n defnyddio ein gwasanaethau iechyd a gofal.”