Neidio i'r prif gynnwy

Staff a chleifion yn dweud eu dweud ar ddyfodol gofal iechyd

14 Mai 2024

Mae staff y Bwrdd Iechyd yn gweithio gyda chynrychiolwyr cleifion a rhanddeiliaid i ystyried cefnogaeth a newid ar gyfer gwasanaethau sydd o dan y pwysau mwyaf.

Mae'r bwrdd iechyd yn datblygu Cynllun Gwasanaethau Clinigol ar gyfer naw gwasanaeth gofal iechyd sydd angen cefnogaeth. Y gwasanaethau hyn yw gofal critigol, llawfeddygaeth gyffredinol frys, strôc, endosgopi, radioleg, dermatoleg, offthalmoleg, orthopaedeg ac wroleg.

I gyflawni hyn, mae'r bwrdd iechyd yn siarad â staff, cleifion a sefydliadau partner ac yn cynnal gwahanol fathau o weithdai. Nod y gweithdai hyn yw darganfod beth yw'r problemau yn y naw maes gwasanaeth, a thrafod syniadau newydd. Mae’r materion a’r syniadau’n cael eu profi yn erbyn mesurau a gofynion sy’n bwysig i gymunedau yn ardal Hywel Dda.

Yn ystod hydref 2023, gwahoddwyd cleifion a oedd wedi defnyddio’r gwasanaethau a gynhwyswyd yn y Cynllun yn ystod y pum mlynedd diwethaf a staff, i lenwi arolygon. Roedd yr arolygon hyn yn galluogi cleifion a staff i rannu eu barn am y naw gwasanaeth gofal iechyd.  Mae hyn eisoes wedi galluogi'r bwrdd iechyd i ysgrifennu papur i ddisgrifio'r materion sy'n effeithio ar y gwasanaethau hyn i'w Fwrdd.

Cyflwynwyd y papur materion i gyfarfod Bwrdd Cyhoeddus y Bwrdd Iechyd ar 28 Mawrth 2024.

Roedd pobl a oedd wedi mynegi diddordeb yn cael eu gwahodd i grŵp dan arweiniad clinigol. Roedd cynrychiolaeth o blith staff, defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid i ddatblygu syniadau ymhellach.

Cynhaliodd y bwrdd iechyd weithdy – a elwir hefyd yn ddigwyddiad cydgynghorol – ym mis Ebrill 2024. Yn y gweithdy hwn, gallai aelodau’r grŵp rannu eu sgiliau a’u profiadau gwahanol ymhellach a thrafod opsiynau posibl ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol. Mynychodd dros 80 o bobl.

Dywedodd Mark Henwood, Cyfarwyddwr Meddygol Dros Dro: “Fel rhan o’r Rhaglen Gwasanaethau Clinigol, rydym am sicrhau bod llais ein claf yn cael ei gynrychioli. Rydym yn ffodus bod cynrychiolwyr cleifion, ein staff, gan gynnwys clinigwyr, a rhanddeiliaid, wedi rhoi o’u hamser i gyfrannu.

“Rydym yn ymgysylltu â chynrychiolwyr cleifion o bob rhan o’r tair sir, a wahoddwyd i gymryd rhan yn y gweithdai hyn. Gwahoddwyd cynrychiolwyr y cleifion yn seiliedig ar broses ddethol ar hap i sicrhau tegwch a thryloywder. Mae mwy o weithdai ar y gweill rhwng nawr a’r haf.”

Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio: “Bydd ein clinigwyr a’n gwasanaethau yn ystyried popeth yr ydym wedi’i glywed. Rydym yn gweithio i ddatblygu opsiynau gwasanaeth i’w hystyried gan y Bwrdd Iechyd yn ei gyfarfod ym mis Medi 2024. Byddwn yn sicrhau bod y cyhoedd a'n staff a rhanddeiliaid yn cymryd rhan ac yn cael eu hysbysu.  Os byddwn yn datblygu opsiynau posibl, byddwn yn ymgysylltu â’n cymunedau i ddeall beth fyddai effaith unrhyw newidiadau.”

Gall aelodau’r cyhoedd gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y bwrdd iechyd ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol yma (yn agor mewn dolen newydd). Gall unrhyw un sy'n dymuno cymryd rhan mewn ymgysylltiadau yn y dyfodol neu ddatblygiadau parhaus ymuno â'n cynllun ymgysylltu yma Siarad Iechyd/Talking Health (yn agor mewn dolen newydd)