Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus am 13 wythnos rhwng dydd Iau 29 Mai 2025 a dydd Sul 31 Awst 2025. Yn ystod yr ymgynghoriad roeddem yn ceisio barn ein cymunedau ar yr opsiynau newid arfaethedig ar draws naw gwasanaeth clinigol. Mae gwybodaeth am yr ymgynghoriad, gan gynnwys dogfennau ymgynghori mewn fformatau hygyrch, ar gael ar ein tudalennau gwe ymgynghori pwrpasol (yn agor mewn dolen newydd)
Casglodd cwmni annibynnol, Opinion Research Services (ORS), yr holl farn a glywsom gan bobl a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ynghyd a chreu adroddiad. Bydd yr adroddiad hwn, ochr yn ochr ag ystod eang o wybodaeth arall, yn helpu'r bwrdd iechyd i wneud penderfyniadau am ddyfodol y gwasanaethau hyn.
Isod gallwch ddarllen crynodeb gweithredol yr adroddiad. Rydym wedi rhannu hyn mewn fformat hygyrch, gan ddefnyddio cynnwys yr adroddiad, yn union fel y cafodd ei ysgrifennu gan ORS. Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ym mhapurau cyfarfod y Bwrdd ym mis Ionawr yma (yn agor mewn dolen newydd, Saesneg yn unig). Rydym yn ymwybodol nad yw'r adroddiad yn bodloni safonau hygyrchedd digidol.
Cynhaliwyd cyfarfod Bwrdd eithriadol ar 18 a 19 Chwefror 2026 lle gwnaeth y Bwrdd benderfyniadau ar y model gofal i’r dyfodol ar gyfer Gwasanaethau Clinigol. Mae rhagor o wybodaeth am y penderfyniadau a wnaethpwyd yma (agor mewn dolen newydd). Bydd cynlluniau gweithredu yn cael eu datblygu, gyda newidiadau yn cael eu cyflwyno fesul cam ac mewn cydweithrediad agos â staff, partneriaid a chymunedau lleol.
Ni wnaed unrhyw benderfyniadau terfynol ar wasanaethau strôc yn ystod cam cyntaf yr ymgynghoriad gan fod angen rhagor o waith ac ymgysylltu cyn penderfynu ar fodel ar gyfer y dyfodol. Ers hynny mae gwaith ychwanegol wedi'i wneud i ddatblygu a phrofi opsiwn a ffefrir ar gyfer gwasanaethau strôc.
Mae’r opsiwn a ffefrir hwn yn dwyn ynghyd elfennau o ddau gynnig amgen (Opsiwn 106 ac Opsiwn 210) a gyflwynwyd gan ein cymunedau yn ystod cam cyntaf yr ymgynghoriad yn haf 2025. Mae’r opsiwn a ffefrir yn cynnwys:
Mewn cyfarfod Bwrdd ar 28 Mai 2026 cymeradwyodd aelodau’r Bwrdd lansiad ail gam yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol gwasanaethau strôc ar draws ein pedwar prif ysbyty. Bydd ail gam yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg am wyth wythnos o 28 Mai tan 26 Gorffennaf 2026.
Mae gwybodaeth am ail gam yr ymgynghoriad, gan gynnwys manylion y digwyddiad, yr holiadur a dogfennau mewn fformatau ac ieithoedd hygyrch, ar gael ar ein tudalennau gwe pwrpasol ar gyfer yr ymgynghoriad (agor mewn dolen newydd)
Ar gyfer yr wyth gwasanaeth clinigol lle mae penderfyniadau wedi’u gwneud, mae cynlluniau gweithredu’n cael eu datblygu, gyda newidiadau’n cael eu cyflwyno fesul cam ac mewn cydweithrediad agos â staff, partneriaid, a chymunedau lleol. Darganfyddwch beth mae penderfyniadau y bwrdd yn ei olygu i bob gwasanaeth isod.