Neidio i'r prif gynnwy

Sesiynau brechu plentyndod galw heibio yr haf hwn

Mae plant a phobl ifanc sy’n cael eu haddysgu gartref neu ddim mewn addysg yn cael eu gwahodd i alw i mewn i Ganolfannau Brechu Torfol (MVCs) Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda dros yr haf i gael mynediad at frechiadau plentyndod a gynigir yn rheolaidd trwy dimau nyrsio ysgol.

Mae'r sesiynau galw heibio hyn hefyd yn agored i unrhyw fynychwyr ysgol yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro neu Ceredigion a allai fod wedi methu eu brechiadau.

Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae imiwneiddio yn bwysig i blant oherwydd ei fod yn helpu i ddarparu imiwnedd cyn dod i gysylltiad â chlefydau a allai beryglu bywyd.

“Mae imiwneiddio wedi helpu i gael gwared ar rai clefydau gwanychol difrifol iawn. Mae polio a’r frech wen, er enghraifft, bellach wedi’u dileu diolch i frechlynnau.

“Mae’n bwysig bod pob plentyn yn cael mynediad hawdd at eu brechlynnau sydd wedi’u hamserlennu ac felly rydym yn falch o gynnig y sesiynau galw heibio hyn.”

Rhaid i riant neu warcheidwad sy’n gallu rhoi caniatâd fod yn bresennol gyda’r plentyn/plant.

Bydd sesiynau galw heibio i blant 5 i 17 oed yn cael eu cynnal rhwng 12pm a 6pm yn y lleoliadau canlynol:

  • Canolfan Aberystwyth (Llyfrgell Thomas Parry, Campws Llanbadarn, SY23 3AS) – Dydd Mawrth 2 a Dydd Mawrth 30 Awst
  • Canolfan Caerfyrddin (Y Gamfa Wen, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, SA31 3EP) – Dydd Mercher 3 Awst a Dydd Gwener 2 Medi.
  • Canolfan Cwm Cou (Ysgol Trewen, SA38 9PE) – Dydd Llun 8 and Dydd Llun 22 Awst
  • Canolfan Hwlffordd (Archifdy Sir Benfro, SA61 2PE) Dydd Mercher 10 Awst a Dydd Mercher 31 Awst
  • Canolfan Llanelli (Ystad Ddiwydiannol Dafen, SA14 8QW) – Dydd Mercher 27 Gorffennaf a Dydd Mawrth 23 Awst

Mae croeso hefyd i rieni sydd ag ymholiadau am unrhyw agwedd ar imiwneiddiadau eu plentyn alw i mewn am sgwrs anffurfiol.

Os na allwch ddod i un o'r sesiynau hyn a bod gennych unrhyw ymholiadau neu'n dymuno i'ch plentyn gael ei frechlynnau wedi'u hamserlennu, llenwch y ffurflen sydd ar gael yma hduhb.nhs.wales/vaccine-access-for-home-schooled-children neu ffoniwch 0300 303 8322 i aelod o dîm nyrsio imiwneiddio’r bwrdd iechyd gysylltu â chi.

Nodiadau i Olygyddion

Bydd y brechlynnau canlynol ar gael ym mhob sesiwn galw heibio:

  • HPV (human papillomavirus)  - yn cael ei gynnig fel mater o drefn i bob plentyn 12 a 13 oed (blwyddyn ysgol 8)
  • Brechlyn hwb 3-mewn-1 ar gyfer y glasoed - yn cael ei gynnig fel mater o drefn i bob person ifanc ym mlwyddyn ysgol 9
  • Brechlyn MenACWY  - yn cael ei gynnig fel mater o drefn i bob person ifanc tua 13/14 oed (blwyddyn ysgol 9).
  • Bydd brechlyn Y Frech goch, clwy’r pennau a rwbela (MMR)  ar gael mewn sesiynau galw heibio i blant 5 oed a throsodd a allai fod wedi methu cael y rhain yn iau gyda'u meddyg teulu. Mae'r rhain yn cael eu cynnig fel mater o drefn trwy eich meddyg teulu. Cysylltwch â'ch meddyg teulu os oes angen y brechlynnau hyn ar eich plentyn a'i fod yn 3 oed a 4 mis i 5 oed.