Neidio i'r prif gynnwy

Safleoedd iechyd meddwl ac anabledd dysgu i fynd yn ddi-fwg

26 Awst 2022

Rydym yn gweithio tuag at amgylchedd iachach a glanach i bawb.

Er mwyn diogelu iechyd a lles ein staff, cleifion ac ymwelwyr, bydd ein holl safleoedd iechyd meddwl ac anabledd dysgu yn mynd yn gwbl ddi-fwg o 1 Medi 2022.

Mae hyn yn cynnwys yr holl unedau preswyl, wardiau, adeiladau, tiroedd a cherbydau ar ein safleoedd.

Bydd hyn yn golygu na fydd cleifion bellach yn gallu dod â chynhyrchion tybaco i'r ysbyty, a gofynnir yn garedig i deulu a ffrindiau beidio â dod â'r eitemau hyn i mewn i gleifion pan fyddant yn ymweld.

Ysmygu yw prif achos salwch y gellir ei osgoi a marwolaethau cynnar yng Nghymru ac mae pobl â chyflyrau iechyd meddwl yn llawer mwy tebygol o fod yn ysmygwyr.

Gall ysmygu gyfrannu at ddifrifoldeb cyflyrau iechyd meddwl, ac mae’n un o’r prif achosion o ostyngiad mewn disgwyliad oes i bobl â chyflyrau iechyd meddwl.

Mae rhoi'r gorau i ysmygu yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl. Mae tystiolaeth yn dangos bod rhoi’r gorau i ysmygu yn arwain at well hwyliau ac ansawdd bywyd, yn ogystal â lleihau symptomau gorbryder ac iselder.

Dywedodd Jo McCarthy, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae hyn yn newyddion gwych i bawb ar draws ein tair sir, fodd bynnag rydym yn gwybod y gallai hyn fod yn heriol i’n cleifion a’n staff, a gallwn gynnig cymorth a chefnogaeth i’r rhai sydd ei angen.

“Bydd staff yn cael eu cefnogi i gael sgwrs am arferion ysmygu gyda phob claf wrth gyrraedd, cynnig therapïau cyfnewid (gan gynnwys opsiynau fel plaster nicotin a losin) a siarad am y cymorth arall sydd ar gael.

“Bydd hyn yn cynnwys help gyda chwantau a ffyrdd o gefnogi cleifion i aros yn ddi-fwg.

“Fel rhan o gynllun gofal, bydd cleifion hefyd yn cael cynnig cymorth personol gan gynghorydd arbenigol o’r Tîm Ysmygu a Llesiant.”

Gall unrhyw un a hoffai gael cymorth i roi’r gorau i ysmygu gysylltu â’r tîm am gymorth drwy ffonio 0300 303 9652 neu ymweld â  https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/tim-ysmygu-a-lles/