Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Atal Diabetes newydd bellach ar gael ar draws BIP Hywel Dda

15 Chwefror 2023

Yn dilyn canlyniadau ardderchog o gynllun peilot a gynhaliwyd yng ngogledd Ceredigion, mae Rhaglen Atal Diabetes newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bellach ar gael i’r rhai sydd fwyaf mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2 (agor yn dolen newydd) sy’n byw ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Nod y rhaglen atal yw helpu pobl y mae eu meddyg teulu wedi nodi eu bod mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2 i leihau ffactorau risg trwy addysg a chymorth, mewn partneriaeth â’r Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (agor yn dolen newydd).

Mae diabetes math 2 yn gyflwr cyffredin sy'n achosi i lefel y siwgr (glwcos) yn y gwaed fynd yn rhy uchel. Gall achosi symptomau fel syched gormodol, gorfod mynd i’r toiled yn aml a blinder. Gall hefyd gynyddu risg person o gael problemau difrifol gyda'i lygaid, calon a nerfau.

Mae'n aml yn gysylltiedig â bod dros bwysau neu'n segur, neu â hanes teuluol o ddiabetes math 2.

Bydd pobl y nodir eu bod mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2 yn cael eu gwahodd i apwyntiad ymyriad byr lle bydd prawf HbA1C yn cael ei gynnal i bennu lefel eu siwgr gwaed (glwcos) cyfartalog o’r ddau i dri mis diwethaf.

Bydd ein hwyluswyr iechyd a lles yn trafod eu ffordd o fyw bresennol a bydd newidiadau posibl yn cael eu cytuno, gyda’r opsiwn i fynychu rhaglen Sgiliau Maeth am Oes yn ogystal â sesiynau ymarfer corff y Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff er mwyn cefnogi colli pwysau a lleihau’r risg o datblygu diabetes math 2. Bydd apwyntiad dilynol chwe mis a 12 mis hefyd yn cael ei ddarparu.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Hirdymor ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Bydd y Rhaglen Atal Diabetes yn helpu i leihau’r risg y bydd pobl yn datblygu diabetes math 2 drwy ddarparu mynediad cyflym at asesiad ffordd iach o fyw proffesiynol a chymorth i wneud newidiadau ymddygiad cynaliadwy.

“Trwy dargedu mesurau cardiofasgwlaidd penodol, gwella gwybodaeth claf, hyder a’r gallu i wneud dewisiadau cynaliadwy o ran ffordd o fyw, byddwn yn gallu lleihau’r risg y bydd pobl yn datblygu diabetes, yn cael strôc ac yn eu helpu i fwynhau bywyd iachach yn y dyfodol.”

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda hefyd yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan sy’n cefnogi’r gwaith o gyflawni’r rhaglen ar draws ardal Hywel Dda.

Mae’r rhaglen yn cael ei rhedeg gan saith hwylusydd iechyd a llesiant sy’n gweithio ar draws y bwrdd iechyd, dietegydd arweiniol clinigol a thîm y Rhaglen Addysg i Gleifion mewn partneriaeth â’r Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff.

I gael gwybod mwy cysylltwch â’r tîm Atal Diabetes drwy ffonio 01554 781129 neu e-bostio DMprevention.HDD@wales.nhs.uk