Neidio i'r prif gynnwy

Radio BGM yn FYW o PRIDE

20 Gorffennaf 2023

Radio BGM Ysbyty Tywysog Philip oedd partner cyfryngau swyddogol Pride Llanelli eleni a darlledodd yn fyw ddydd Sadwrn 15 Gorffennaf, gan roi sylw i ddigwyddiadau’r dydd a chynnig cyfle i wrandawyr yn yr ysbyty ac ar-lein ddilyn y digwyddiad.

Profodd Pride Llanelli yn llwyddiant gyda miloedd o bobl yn mynychu, gyda llawer ohonynt wedi stopio i ddweud “helo” wrth dîm Radio BGM a oedd wedi eu lleoli ger y brif fynedfa.

Dywedodd Cadeirydd Radio BGM, David Hurford: “Roedd yn ddiwrnod gwirioneddol wych, a hoffwn ddiolch i’n tîm hynod weithgar am eu holl ymdrechion i’w wneud yn gymaint o lwyddiant.

“Rydym yn dîm bach sy’n gweithio’n ddiflino i ddarparu gwasanaeth i gleifion a staff yr ysbyty a’r cymunedau cyfagos.

“Mae’n wirioneddol galonogol gweld pob un ohonom yn gweithio gyda’n gilydd i barhau i ddarparu’r gwasanaeth lleol hanfodol hwn.

“Roeddem yn ffodus iawn i fod mewn lleoliad gwych ar gyfer y digwyddiad a roddodd lawer o gyfleoedd i ni ymgysylltu ar yr awyr ac oddi ar yr awyr. Allwn i ddim bod yn fwy balch o’r hyn sydd wedi’i gyflawni gan ein tîm bach ond ymroddedig o wirfoddolwyr.

“Rhaid diolch yn arbennig hefyd i’n cydweithwyr yn Broadcast Radio a fu’n hynod gefnogol ac a helpodd ni i ddefnyddio Myriad Anywhere i’w lawn botensial yn ystod y darllediad.

“Yn olaf, ein diolch i drefnwyr Llanelli Pride am ein gwahodd i fod yn bartner cyfryngau swyddogol y digwyddiad eleni. Roedd yn ddiwrnod gwych, ac edrychwn ymlaen at fod gyda chi eto y flwyddyn nesaf gobeithio!”.

Mae llwyddiant darllediad Pride yn dilyn cyfres o wobrau ar gyfer Radio BGM yng Ngwobrau Darlledu Ysbytai cenedlaethol eleni (‘HBA’) lle derbyniodd Dave Wobr Cyfraniad Eithriadol John Whitney am ei wasanaethau i radio ysbyty.

Mae’r orsaf yn parhau i fynd o nerth i nerth ac yn adeiladu tuag at ben-blwydd mawr yn 2024 wrth i Radio BGM baratoi i ddathlu 50 mlynedd o ddarlledu!

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli i Radio BGM ddarganfod mwy ar y wefan:www.radiobgm.org.uk