2 Mehefin 2026
Bydd pobl ifanc ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cael eu gwahodd i dderbyn brechiad MenB (meningococal B) fel rhan o raglen genedlaethol wedi'i thargedu.
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dechrau anfon llythyrau apwyntiad o 3 Gorffennaf 2026 at y rhai 17 a 18 oed a anwyd rhwng 1 Medi 2007 a 31 Awst 2008.
Mae'r brechiad yn helpu i amddiffyn rhag clefyd meningococol B, haint bacteriol prin ond difrifol a all arwain at meningitis a septisemia.
Bydd pobl ifanc gymwys yn cael cynnig dau ddos o'r brechlyn MenB, gyda'r apwyntiadau cyntaf ar gael o ddiwedd mis Gorffennaf a'r ail ddos yn cael ei roi bedair wythnos yn ddiweddarach i sicrhau'r amddiffyniad gorau posibl.
Bydd clinigau brechu ar gyfer y rhai sydd ag apwyntiadau yn cael eu cynnal ar draws y tair sir, a bydd manylion yr amseroedd a'r lleoliadau yn cael eu cynnwys mewn llythyrau apwyntiad unigol.
Dywedodd Dr Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Iechyd y Chyoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae clefyd grŵp B meningococal yn salwch difrifol, sy’n aml yn peryglu bywyd. Mae pobl ifanc yn eu harddegau mewn mwy o berygl o nifer o ffactorau, oherwydd fod bod o gwmpas llawer o bobl newydd mewn mannau byw a rennir fel neuaddau prifysgol yn cynyddu lledaeniad yr haint.
"Mae'r rhaglen frechu hon, gyda dau ddos o'r brechlyn MenB, yn gam pwysig i amddiffyn pobl ifanc ar draws ein cymunedau, yn enwedig gan fod llawer yn paratoi i ddechrau coleg neu brifysgol ac efallai eu bod yn byw ac yn cymdeithasu mewn amgylcheddau newydd.
"Rwy'n annog pawb sy'n gymwys i fanteisio ar y cynnig pan fyddant yn cael eu gwahodd ac i wneud yn siŵr eu bod yn derbyn y ddau ddos o'r brechlyn ar gyfer yr amddiffyniad gorau. Mae cael eich brechu yn gyflym, yn ddiogel a'r ffordd fwyaf effeithiol o leihau'r risg o'r haint hwn a allai fod yn peryglu bywyd."
Grwpiau ychwanegol sy'n gymwys
Bydd y brechlyn hefyd ar gael i grŵp ehangach o oedolion ifanc o dan 25 sydd:
Ni fydd pobl yn y grŵp hwn yn derbyn llythyr. Yn lle hynny, gofynnir iddynt gysylltu â'r Bwrdd Iechyd ar ôl 20 Gorffennaf 2026 drwy ffonio 0300 303 8322 neu e-bostio ask.hdd@wales.nhs.uk i ddarganfod ble y gallant gael eu brechu'n lleol.
Er mwyn helpu i reoli'r galw, gofynnir i bobl beidio â chysylltu â'r Bwrdd Iechyd cyn y dyddiad hwn.
Gofynnir i'r rhai sy'n mynychu'r brifysgol neu'r coleg am y tro cyntaf ddod â thystiolaeth o'u cynnig pan fyddant yn mynychu eu hapwyntiad brechu.
Rhagor o wybodaeth
Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd yma: Brechiad MenB (meningococcal B) - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (agor mewn dolen newydd)
I gael rhagor o wybodaeth am glefyd meningococol a'i symptomau, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru (agor mewn dolen newydd)