Bydd pobl ifanc ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cael eu gwahodd i dderbyn brechiad MenB (meningococal B) fel rhan o raglen genedlaethol wedi'i thargedu.
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dechrau anfon llythyrau apwyntiad o 3 Gorffennaf 2026 at y rhai 17 a 18 oed a anwyd rhwng 1 Medi 2007 a 31 Awst 2008.
Mae'r brechiad yn helpu i amddiffyn rhag clefyd meningococol B, haint bacteriol prin ond difrifol a all arwain at meningitis a septisemia.
Bydd pobl ifanc gymwys yn cael cynnig dau ddos o'r brechlyn MenB, gyda'r apwyntiadau cyntaf ar gael o ddiwedd mis Gorffennaf a'r ail ddos yn cael ei roi bedair wythnos yn ddiweddarach i sicrhau'r amddiffyniad gorau posibl.
Bydd clinigau brechu ar gyfer y rhai sydd ag apwyntiadau yn cael eu cynnal ar draws y tair sir, a bydd manylion yr amseroedd a'r lleoliadau yn cael eu cynnwys mewn llythyrau apwyntiad unigol.
Grwpiau ychwanegol sy'n gymwys
Bydd y brechlyn hefyd ar gael i grŵp ehangach o oedolion ifanc o dan 25 sydd:
Ni fydd pobl yn y grŵp hwn yn derbyn llythyr. Yn lle hynny, gofynnir iddynt gysylltu â'r Bwrdd Iechyd ar ôl 20 Gorffennaf 2026 drwy ffonio 0300 303 8322 neu e-bostio ask.hdd@wales.nhs.uk i ddarganfod ble y gallant gael eu brechu'n lleol.
Er mwyn helpu i reoli'r galw, gofynnir i bobl beidio â chysylltu â'r Bwrdd Iechyd cyn y dyddiad hwn.
Gofynnir i'r rhai sy'n mynychu'r brifysgol neu'r coleg am y tro cyntaf ddod â thystiolaeth o'u cynnig pan fyddant yn mynychu eu hapwyntiad brechu.
I gael rhagor o wybodaeth am glefyd meningococol a'i symptomau, ymweld â dudalen brechlyn MenB Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer pobl ifanc (agor mewn dolen newydd)