Neidio i'r prif gynnwy

Penodi James Severs yn Gyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd

24 Awst 2023

Mae James Severs wedi’i benodi fel Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Daw Mr Severs, a fydd yn dechrau yn ei swydd ar 6 Tachwedd 2023, â dros 14 mlynedd o brofiad o weithio fel gweithiwr proffesiynol perthynol i iechyd mewn ystod o ymddiriedolaethau iechyd yn Lloegr.

Mae ei rolau diweddaraf wedi bod gydag Ymddiriedolaeth GIG Sandwell and West Birmingham, lle mae ar hyn o bryd yn Brif Weithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd gyda chyfrifoldeb am iechyd perthynol a gwyddorau iechyd.

Meddai Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi penodi James i’r swydd hon, ac edrychwn ymlaen at ei groesawu i deulu Hywel Dda mewn rhai misoedd. Mae James yn arweinydd angerddol o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr iechyd, ac rwyf yn hyderus y bydd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol a pharhaol i’n tîm a’r cymunedau ehangach rydym yn eu gwasanaethu.

“Daw penodiad James yn dilyn ymddeoliad Alison Shakeshaft fel Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd a adawodd Hywel Dda ar ddiwedd mis Gorffennaf, ac yr hoffwn ddiolch yn ddiffuant iddi am ei cyfraniadau niferus dros y blynyddoedd. Pob dymuniad da iddi a rei hantur nesaf.”

Meddai James: “Rwyf wrth fy modd o gael fy mhenodi’n Gyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd ac yn edrych ymlaen at gydweithio â chydweithwyr ar draws Hywel Dda i gyflawni strategaeth uchelgeisiol y bwrdd iechyd.

“Mae gan Therapïau a Gwyddorau Iechyd ran hanfodol i’w chwarae wrth gefnogi iechyd a llesiant unigolion yn ein cymunedau – gan helpu pobl i aros yn iachach yn hirach a chefnogi unigolion i adfer – elfen allweddol o strategaeth hirdymor y bwrdd iechyd. Rwy’n gyffrous am ymuno â’r tîm a helpu i arwain yr agenda bwysig hon ar gyfer cymunedau canolbarth a gorllewin Cymru.”

Daw Mr Severs o Lerpwl yn wreiddiol a dechreuodd a rei yrfa fel parafeddyg ar ôl graddio o Brifysgol Coventry. Mae ganddo radd ôl-radd mewn Gwyddor Parafeddygol o Brifysgol Swydd Hertford. Camodd James i swyddi arweiniol tra’n gweithio i Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Ysbytai Prifysgol Bryste ac Ymddiriedolaeth y GIG Partneriaeth Iechyd Meddwl Avon a Wiltshire, cyn cael ei benodi’n Gyfarwyddwr Gofal Iechyd Corfforol gyda Gofal Iechyd St Andrew’s yn Northampton.

Mae James yn parhau i weithio’n glinigol fel parafeddyg ac yn addysgu ar gyrsiau cynnal bywyd achrededig cenedlaethol ar gyfer Cyngor Dadebru (DU). Pan nad yw wrth ei waith, mae James yn mwynhau bod yn yr awyr agored yn cerdded llwybrau arfordirol ac yn edrych ymlaen at brofi prydferthwch arfordir Cymru. Mae James yn byw ym Mryste ar hyn o bryd a bydd yn adleoli i’r ardal wrth iddo ddechrau ar ei swydd newydd yn ddiweddarach eleni.