Neidio i'r prif gynnwy

Penodi Is-Gadeirydd newydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

10 Awst 2023

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am benodi Is-Gadeirydd newydd gan y bydd tymor swydd yr Is-Gadeirydd presennol, Judith Hardisty, yn dod i ben ym mis Mawrth 2024.

Wrth dalu teyrnged i’r Is-Gadeirydd presennol, dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae wedi bod yn bleser gweithio ochr yn ochr â Judith dros y blynyddoedd. Mae hi wedi chwarae rhan allweddol yn ein Bwrdd ers iddi ymuno yn 2016, ac yn arbennig felly ers iddi ymgymryd â rôl yr Is-Gadeirydd yn 2017 – gan ddod â dyfnder gwybodaeth, sgiliau ac arbenigedd i’n bwrdd iechyd a enillwyd drwy nifer o flynyddoedd o weithio yn swyddi uwch ar draws y GIG.

“Mae Judith wedi bod yn golau sy’n arwain yng ngwaith ein bwrdd iechyd, yn enwedig mewn perthynas â gofal cymunedol sylfaenol a gwasanaethau iechyd meddwl, yn ystod ei chyfnod  swydd o wyth mlynedd.”

Mae Miss Battle yn parhau: “Tra bydd Judith yn parhau yn ei rôl tan ddiwedd mis Mawrth 2024, hoffwn ddiolch yn ddiffuant iddi am ei gwasanaeth, ei chefnogaeth ddiwyro a’i hymroddiad yn ei rôl fel Is-Gadeirydd, Aelod Pwyllgor ac i GIG Cymru yn gyffredinol. – dymunwn yn dda iddi i’r dyfodol.

“Rwy’n annog unigolion sydd â diddordeb mewn cefnogi uchelgeisiau ein Bwrdd Iechyd yn y dyfodol i wneud cais am swydd Is-Gadeirydd a helpu i lunio dyfodol ein gwasanaethau iechyd a gofal yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.”

Mae penodiadau Aelodau Bwrdd Annibynnol i fyrddau iechyd yn benodiadau cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru. Mae'r penodiad am gyfnod cychwynnol o bedair blynedd, y gellir ei ymestyn am ail dymor. Anogir unigolion sydd â diddordeb mewn gwneud cais am rôl yr Is-Gadeirydd i wneud cais yn:  Penodi Is-Gadeirydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - Llywodraeth Cymru (Cais) (tal.net) (Agor mewn dolen newydd)

Yn flaenorol, rhannodd Miss Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ei bwriad i ymddeol ddiwedd mis Hydref eleni wrth i’w chyfnod swydd dod i ben.