Neidio i'r prif gynnwy

Peiriant biopsi prostad newydd o'r radd flaenaf ar gyfer ysbytai Glangwili a'r Tywysog Philip

Yn y llun, o'r chwith, yn y digwyddiad cyflwyno'r siec, y mae: Lianne Wood, Rheolwr y Gwasanaeth Wroleg; Angharad Watkins, Nyrs Glinigol Arbenigol; Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; Mr Yeung Ng, y Meddyg Ymgynghorol; David Goddard, Ken Jones a Iori Rees o Grŵp Cymorth Canser y Prostad Gorllewin Cymru; a Claire Rumble, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda.

 

23/11/2021

Mae peiriant biopsi o'r prostad o'r radd flaenaf, gwerth £50,000, wedi cael ei brynu i'w ddefnyddio yn Ysbyty'r Tywysog Philip ac Ysbyty Glangwili, diolch i roddion elusennol i wasanaethau wroleg lleol, gan gynnwys rhodd o £30,000 gan Grŵp Cymorth Canser y Prostad Gorllewin Cymru.

Bydd y cyfarpar diagnostig newydd yn trawsnewid y ffordd y mae diagnosis o ganser y prostad yn cael ei wneud, yn ôl y Meddyg Ymgynghorol Wroleg Mr Yeung Ng, ac yn galluogi'r tîm Wroleg i barhau i ddatblygu'r gwasanaeth biopsi targededig yn lleol.

Dywedodd y Meddyg Ymgynghorol, Mr Ng: "Bydd y cyfarpar newydd yn ein galluogi i ddyblu ein galluedd i wneud biopsïau o'r prostad, ac yn caniatáu i ni gynnal y biopsïau hefyd.

"Bydd y cyfarpar yn caniatáu i ni gynnal biopsïau trawsberineol, sy'n driniaethau mwy diogel ac sydd â chyfradd is o ran heintiau gan nad oes raid i ni wneud y biopsi trwy'r rectwm, ac mae'r cyfraddau diagnostig hefyd yn well.

"Mae'r Adran Wroleg yn hynod o ddiolchgar am y rhoddion elusennol a gafwyd sydd wedi ei gwneud yn bosibl i ni brynu'r cyfarpar hwn, yn ogystal ag am y gefnogaeth barhaus y mae Grŵp Cymorth Canser y Prostad Gorllewin Cymru wedi'i rhoi i ni.

Mae'r cymorth gan ein cymunedau lleol wedi ein helpu i gael cyfarpar diagnostig y prostad o'r radd flaenaf, sy'n ein paratoi'n dda ar gyfer pontio i fod yn wasanaeth y prostad trawsberineol wrth i ni barhau i ddatblygu'r gwasanaeth biopsi targededig ar yr un pryd.

"Mae'r gefnogaeth hon yn helpu i drawsnewid y modd yr ydym yn gwneud diagnosis o ganser y prostad, yn enwedig gan fod cleifion wedi gorfod teithio i fwrdd iechyd cyfagos yn y gorffennol i gael y biopsi blaengar hwn."

Dywedodd Ken Jones, cadeirydd Grŵp Cymorth Canser y Prostad Gorllewin Cymru: "Mae ein grŵp yn cynnig cymorth i ddynion sy'n byw yng Ngorllewin Cymru, a'u partneriaid.

“Er nad ydym yn sefydliad sy'n mynd ati i godi arian, rydym yn aml yn cael rhoddion gan bobl yr ydym wedi'u helpu. Felly, pan fyddwn yn gallu, rydym yn rhoi symiau mwy i feysydd lle mae eu hangen, megis y byrddau iechyd ac elusennau ymchwil canser sy'n gweithio yng Ngorllewin Cymru.

"Mae'n bleser gennym allu cynorthwyo i brynu'r cyfarpar hwn a fydd yn helpu yng ngwaith Adran Wroleg Hywel Dda."

Yn y llun, o'r chwith, gyda'r peiriant biopsi newydd, y mae: Wolfgang Ackerman, David Ceri Thomas a Nicola Thomas, Nyrsys Arbenigol; Mr Yeung Ng, y Meddyg Ymgynghorol; a Janet Mackrell, Gweithiwr Cymorth Canser.