Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau yng ngwasanaethau Cleifion Allanol Ysbyty Llwynhelyg

Tachwedd 7 2023

Bydd ymgynghoriadau cleifion allanol yn Ysbyty Llwynhelyg, a gafodd eu lleihau o ganlyniad i ddarganfod planciau Concrit Awyrog Awtoclaf Cyfnerth (RAAC) diffygiol nawr yn ailddechrau mewn lleoliadau eraill ledled Sir Benfro.

Mae RAAC yn ddeunydd a ddefnyddiwyd yn gyffredin wrth godi adeiladau rhwng y 1960au a'r 1990au. Cadarnhawyd ei bresenoldeb yn Ysbyty Llwynhelyg yn yr haf.

Caeodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda adeilad Cleifion Allanol A yn ysbyty Hwlffordd er mwyn cwblhau gwaith arolygu hanfodol gan arwain at ostyngiad o 50 y cant mewn apwyntiadau.

Er bod pob ymdrech wedi’i gwneud i darfu cyn lleied â phosibl, cafodd llawer o wasanaethau cleifion allanol eu hadleoli ledled ardal y bwrdd iechyd, tra bu tîm rheoli’r ysbyty yn gweithio i ddod o hyd i lety addas yn Sir Benfro.

Mae’r holl wasanaethau Cleifion Allanol y mae gwaith RAAC yn effeithio arnynt wedi dod o hyd i gartrefi newydd, ond dros dro, hyd nes y bydd yr adeilad yn barod i dderbyn cleifion eto ond ni ddisgwylir hyn tan Haf 2024.

Dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn falch iawn bod y gwasanaethau Cleifion Allanol wedi cael eu hadleoli mor gyflym wrth i ni weithio i atgyweirio ardaloedd clinigol cleifion allanol yr effeithir arnynt gan RAAC yn Llwynhelyg.

“Gwyddom fod y gwaith arolygu a’r camau adfer wedi achosi cryn aflonyddwch a phryder ymhlith aelodau o’n cymuned ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.

“Hoffai’r bwrdd iechyd ddiolch i staff ysbytai, cleifion ac ymwelwyr am eu hamynedd a’u dealltwriaeth dros y misoedd diwethaf tra rydym wedi bod yn gwneud y gwaith hanfodol hwn.”

Er bod disgwyl i dair ward ail-agor erbyn y Nadolig, bydd gwaith yn parhau dros y flwyddyn ariannol hon a’r flwyddyn ariannol nesaf i fynd i’r afael â’r planciau argyfyngus a risg uchel. Disgwylir i’r holl wardiau yr effeithir arnynt gael eu hailagor erbyn mis Ebrill 2024 tra bydd gwaith adfer ar y lloriau gwaelod yn parhau i mewn i’r flwyddyn ariannol nesaf (Ebrill 2025).

Dywedodd Mr Carruthers y byddai'r bwrdd iechyd yn ysgrifennu at gleifion i gadarnhau dyddiad, amser a lleoliad apwyntiadau neu ffonio cleifion y mae eu hapwyntiadau ar fin digwydd.

“Rydym yn annog pawb i ddarllen y llythyr apwyntiad yn ofalus a nodi unrhyw newid lleoliad, gan y gallai apwyntiadau a gynhaliwyd yn flaenorol yn Ysbyty Llwynhelyg nawr gael eu cynnal ar safle Gofal Iechyd Cymunedol. Cofiwch adael digon o amser ar gyfer eich taith gan fod parcio yn eithaf cyfyngedig yn rhai o’r lleoliadau.”

Dylai cleifion nodi bod capasiti fflebotomi llai yn Ysbyty Llwynhelyg a gofynnir iddynt beidio â mynd i'r Ystafell Fflebotomi heb apwyntiad. Gellir gwneud cais am apwyntiad drwy ffonio 01437 772433.

Yn anffodus, oherwydd bod yr Ystafell Fflebotomi ar gau ar adegau penodol, mae’n bosibl na fydd cleifion yn gallu cael cymryd eu gwaed ar yr un diwrnod â’u hapwyntiad ac efallai y bydd angen iddynt wneud apwyntiad arall i fynychu ar ddiwrnod arall.

Mae cleifion yn cael eu hannog i ddefnyddio eu cludiant eu hunain neu i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd apwyntiadau pan fo hynny'n bosibl. Os na allant wneud hynny, gall cleifion gael mynediad at gymorth trafnidiaeth drwy ffonio 0300 1232 303.

Os oes gan gleifion unrhyw bryderon neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnynt, fe'u cynghorir i gysylltu â'r Gwasanaeth Cymorth Rhestr Aros drwy ffonio 0300 303 8322 a dewis opsiwn 3 neu anfon e-bost at e-mailask.hdd@wales.nhs.uk. Mae rhagor o wybodaeth am y mater RAAC yn Ysbyty Llwynhelyg i’w gweld ar ein tudalen bwrpasol ar ein gwefan - RAAC - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru).

DIWEDD