Neidio i'r prif gynnwy

Newid dros dro i gleifion Meddygfeydd Neyland a Johnson

Diweddariad COVID Hywel Dda

Cynghorir cleifion cofrestredig Meddygfa Neyland a Meddygfa Johnston, sydd angen defnyddio’r gwasanaethau dros y diwrnodau nesaf, nad ydynt yn cynnig gwasanaeth llawn ar hyn o bryd, a’u bod yn cael cymorth gan feddygfeydd cyfagos a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Cyflwynwyd y newid dros dro hwn gan y meddygfeydd i ddiogelu cleifion a staff gan fod nifer fach o staff gweinyddol wedi profi’n bositif am COVID-19. Mae Meddygfeydd Neyland a Johnston ar gau am gyfnod byr ar gyfer dadheintio trylwyr. Mae’r meddygfeydd yn gweithio’n agos iawn ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda er mwyn adfer gwasanaethau cyn gynted â phosib. Dylai cleifion sydd angen presgripsiwn gysylltu â’u fferyllfa arferol yn gyntaf er mwyn trefnu cyflenwad dros dro.

Dylai cleifion sydd angen gweld Meddyg Teulu neu nyrs mewn person gysylltu â’r feddygfa ar y rhif arferol, a bydd camau priodol yn cael eu gweithredu.

Meddai Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Gwyddom ei bod yn amser pryderus ac rydym am dawelu meddwl cleifion, staff a’r cyhoedd bod yr holl drefniadau priodol o ran olrhain cyswllt a rheoli heintiau ar waith i amddiffyn cleifion a staff.”

Cofiwch, os oes angen i chi adael y tŷ, cadwch bellter o 2 fetr, golchwch eich dwylo’n rheolaidd a gwisgwch orchudd wyneb lle bo angen.

Am arweiniad diweddaraf Llywodraeth Cymru, ewch i: gov.wales/coronavirus