Neidio i'r prif gynnwy

Meddygon teulu yn dechrau cyflwyno rhaglen frechu Rhydychen AstraZeneca COVID-19

Mae ein poblogaeth dros 80au yn Hywel Dda wedi dechrau derbyn brechiadau i'w hamddiffyn rhag COVID-19 gan fod y brechlynnau Rhydychen AstraZeneca cyntaf wedi'u dosbarthu i feddygfeydd teulu yng ngorllewin Cymru yr wythnos hon.

Roedd Mrs Margaret Stevens, 92 oed, o Lanelli yn falch iawn o fod yn un o'r cleifion cyntaf yn y gymuned i dderbyn ei brechlyn fel yr oedd Mr Clifford Jones un o drigolion Porth Tywyn, 85 oed.

Hyd yn hyn, mae mwy na 10,000 o frechlynnau wedi’u dosbarthu yn ardal Hywel Dda ers mis Rhagfyr 2020 ac o’r wythnos nesaf ymlaen, bydd 14 meddygfa ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn darparu’r brechlyn yn lleol i bobl 80 oed a hŷn.

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar y cyd â chydweithwyr gofal sylfaenol, fel y bydd llawer mwy o feddygfeydd ar draws tair sir Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro erbyn canol mis Ionawr yn galw cleifion i mewn am y brechlyn, yn ogystal â darparu brechiad i fwy o breswylwyr cartrefi gofal ynghyd â cleifion sy'n gaeth i'w cartrefi.

Mae'r bwrdd iechyd hefyd yn trafod gyda chydweithwyr fferylliaeth gymunedol i archwilio'r posibilrwydd o fferyllwyr yn gweinyddu brechiadau ac yn gweithio ar sefydlu mwy o ganolfannau brechu yn y gymuned i gefnogi darparu gofal sylfaenol yn Aberystwyth, Llanelli a Hwlffordd, wrth i ragor o ddosau gael eu darparu. Gwneir cyhoeddiadau pan fydd manylion yn derfynol a bydd y safleoedd yn cael eu cyflwyno'n raddol yn unol â threfniadau logistaidd.

Bydd staff iechyd a gofal hefyd yn parhau i gael eu gwahodd i gael eu brechu yn y canolfannau torfol yng Nghaerfyrddin ac Aberteifi.

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r sefyllfa yng Nghymru yn ddifrifol iawn ar hyn o bryd. Mae achosion o'r feirws yn uchel iawn ac mae straen newydd, trosglwyddadwy iawn o coronafeirws yn y DU, sy'n cylchredeg ym mhob rhan o Gymru. Er ein bod yn gofyn i'n cymunedau barhau i amddiffyn eu hunain, eu hanwyliaid a'r GIG trwy aros gartref, mae gobaith hefyd ar ffurf y brechlynnau.

“Mae’n anhygoel ein bod ni wedi brechu 10,000 o bobl yn ardal Hywel Dda yn barod. Rwy'n ddiolchgar i'n holl staff a'r partneriaid rydyn ni'n gweithio gyda nhw mewn gofal sylfaenol, cartrefi gofal ac awdurdodau lleol i wneud i hyn ddigwydd.

“Byddem yn gofyn i’n cymunedau gyd-weithio â ni - bydd yn cymryd amser i’w gyflwyno ond rydym yn sicr y byddwn yn parhau i dderbyn mwy o frechlynnau yn ystod yr wythnosau nesaf. Peidiwch â ffonio'ch meddyg teulu neu ysbyty i ddarganfod pryd fydd eich brechlyn, ond byddwch yn dawel eich meddwl y byddant yn eich gwahodd ar yr adeg briodol.

“Ond hefyd paratowch i dderbyn y brechlyn pan gewch gynnig iddo. Bydd yn cynnig amddiffyniad gwych i chi rhag y clefyd sydd wedi effeithio ein bywydau”

Ychwanegodd Dr Sion James, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol ar gyfer Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Mae hwn yn amser cyffrous i gontractwyr gofal sylfaenol fod yn rhan o raglen frechu hanesyddol, gan weithio ar y cyd â'n cydweithwyr yn y bwrdd iechyd.

“Hoffem sicrhau'r rhai yn y grŵp blaenoriaeth yr ydym yn brechu mewn gofal sylfaenol ar hyn o bryd (80 a throsodd), y bydd eu meddyg teulu yn cysylltu â hwy i drefnu apwyntiad. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu neu fferyllydd.

“Diolch i bawb am eu hamynedd ar yr adeg hon.”

Yn ddealladwy, bydd llawer o gwestiynau am y brechlynnau COVID-19. Ni fyddai'r brechlynnau wedi'u cymeradwyo a'u rhyddhau pe na baent yn ddiogel. Ewch i Gwybodaeth Brechlyn COVID-19 - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru) i gael mwy o wybodaeth ynghylch cymhwysedd a diogelwch y brechlynnau.

Mae troseddwyr yn defnyddio'r pandemig i sgamio'r cyhoedd - peidiwch â dod yn ddioddefwr. Mae swyddogion y gyfraith, y llywodraeth a phartneriaid yn y sector preifat yn gweithio gyda'i gilydd i annog aelodau'r cyhoedd i fod yn fwy gwyliadwrus yn erbyn twyll, yn enwedig ynglŷn â rhannu eu gwybodaeth ariannol a phersonol, wrth i droseddwyr geisio manteisio ar y pandemig. I ddarganfod mwy, gan gynnwys sut i adrodd trosedd o'r fath, ewch i: Cyngor ynglŷn â thwyll | Heddlu Dyfed-Powys (dyfed-powys.police.uk)