Neidio i'r prif gynnwy

Meddygfa Johnston i ail-agor wythnos nesaf

11 Awst 2023

Bydd Meddygfa Johnston yn Sir Benfro yn ail-agor i'r cyhoedd ar ddydd Llun, 14 Awst ar ôl cwblhau gwaith adeiladu hanfodol.

Daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i reoli Meddygfa Neyland a Johnston ym mis Tachwedd 2022.

Ym mis Ionawr, cafodd Meddygfa Johnston ei chau dros dro tra bod perchnogion adeilad y Feddygfa yn gwneud gwaith adeiladu hanfodol.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae gwaith i uwchraddio’r adeilad bellach wedi’i gwblhau, ac rydym wrth ein bodd y bydd y Feddygfa yn ailagor i gleifion.

“Hoffwn ddiolch i gleifion Meddygfa Johnston am eu cefnogaeth barhaus i dîm y Practis. Gwn fod llawer o gleifion wedi gorfod teithio i Feddygfa Neyland i gael eu gofal tra bod adeilad y Practis ar gau dros dro.

“Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a’ch dealltwriaeth tra bod y gwaith gwella hanfodol hwn wedi’i wneud. Mae’r tîm ar draws Meddygfa Neyland a Johnston yn ehangu, ac rydym yn edrych ymlaen at ailsefydlu gwasanaethau ar gyfer cymuned Practis Johnston.

“Rydym yn edrych ymlaen at weld y feddygfa yn ailagor ar 14 Awst.”

Bydd Meddygfa Johnston wedi’i staffio’n ddyddiol, gydag amrywiaeth o wasanaethau yn cael eu darparu a fydd yn cynnwys apwyntiadau gyda meddygon teulu; clinigau ystafell driniaeth a chlefydau cronig gyda Nyrsys Practis; profion gwaed; sesiynau ffisiotherapi; cymorth i roi'r gorau i ysmygu a rhai sesiynau cwnsela iechyd meddwl i bobl ifanc.

Mae'r Practis, sy'n gweithio fel rhan o Glwstwr De Sir Benfro, wedi recriwtio meddygon teulu newydd i weithio ar draws Neyland a Johnston, yn ogystal â Nyrs Arweiniol newydd a Nyrs Practis newydd. Bydd yr holl staff newydd yn cychwyn yr haf hwn.

DIWEDD