Neidio i'r prif gynnwy

Adrannau argyfwng Cymru dal ar agor

Mae pobl ar draws Cymru yn cael eu hannog i gadw’n ddiogel ac yn iach a chofio bod staff yr adran argyfwng ar gael os ydynt angen cymorth ar frys.

Mae’r nifer o bobl sy’n mynd i adrannau argyfwng Cymru wedi syrthio hyd at 50% ers dechrau’r pandemig coronafeirws.

Ond mae prif weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall, wedi pwysleisio bod gwasanaethau iechyd mewn argyfwng yn dal i fod ar agor ar gyfer pawb sydd angen gofal ar frys.

Mae diogelwch cleifion wedi’i flaenoriaethu mewn adrannau argyfwng ac mae pob ymdrech yn cael ei wneud i lanhau’r cyfleusterau i gadw pobl yn ddiogel.

Dywedodd Dr Goodall:

“Mae ein neges yn glir – os yw’n achos brys, peidiwch ag aros, a pheidiwch â’i adael yn rhy hwyr.

“Mae gwasanaethau ein GIG ar gael i bobl Cymru – nid yw salwch difrifol wedi diflannu oherwydd y coronafeirws. Rydym yn annog pobl i ffonio 999 neu i fynd i’w hadrannau argyfwng lleol os ydynt yn bryderus dros ben am eu cyflwr eu hunain, neu gyflwr plentyn neu aelod o’r teulu.

“Mae darparu gofal brys ac mewn argyfwng i bobl sydd â materion iechyd nad ydynt yn ymwneud â coronafeirws yn parhau i fod yn flaenoriaeth i bob un ohonom. Mae camau hylendid llym a phrotocolau sydd wedi’u hymarfer yn dda ar waith yn ein hysbytai i gadw pobl sydd â coronafeirws, neu â symptomau, oddi wrth eraill.”

Dywedodd Dr Tim Rogerson, cyfarwyddwr clinigol ac ymgynghorydd meddygaeth frys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Beran:

“Rydym eisiau i’r cyhoedd ddal ati i wneud yr hyn y maent yn ei wneud a chadw eu hunain yn ddiogel. Mae rhai pobl wedi aros yn rhy hir i ddod i’r ysbyty ac mae hyn wedi gwneud mwy o ddrwg nag o les i’w hiechyd.

“Os ydynt ein hangen ni, rydym ni yma iddyn nhw. Diogelwch yw ein prif flaenoriaeth os ydych angen ymweld â’r adran argyfwng. Rydym yn cymryd pob cam posibl i lanhau mannau cyhoeddus i’ch cadw’n saff pan ydych chi yn ein gofal.”

Os ydych chi neu aelod o’ch teulu yn ddifrifol wael neu wedi eich anafu, dylech ffonio 999 neu fynd i’ch adran argyfwng agosaf cyn gynted â phosibl.

Mae anafiadau a salwch sy’n bygwth bywyd, ac sydd angen sylw yn syth yn cynnwys:

·       Problemau anadlu

·       Gwaedu

·       Poen difrifol

·       Poen yn y frest

·       Symptomau strôc

·       Os yw plentyn neu berson hŷn gyda chyflwr iechyd sy’n bodoli eisoes yn mynd yn sâl.