Neidio i'r prif gynnwy

Llinell gyngor iechyd rhywiol

Mae Gwasanaeth Iechyd Rhywiol ar gyfer trigolion Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ar gyfer apwyntiadau nad ydynt yn rhai brys a chlinigau mynediad agored cerdded i mewn wedi eu atal dros dro yn unol â'r cyngor ymbellhau cymdeithasol cyfredol yn ystod pandemig Coronavirus.

Er mwyn sicrhau y gall cleifion barhau i gael mynediad at ofal, bydd Gwasanaeth Iechyd Rhywiol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu llinell gyngor ffôn dros dro o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 5pm, ar gyfer cleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol. Y rhif i gysylltu ag ef yw 01267 248 674 a bydd tîm o weithwyr proffesiynol iechyd rhywiol ar gael i ddarparu cyngor a chefnogaeth fel y bo'n briodol.

Yn ogystal, bydd y gwasanaeth yn rhedeg gwasanaeth brys unwaith yr wythnos ym mhob sir a dylai cleifion ffonio'r llinell cyngor ffôn (01267 248 674) i gael asesiad ffôn i sicrhau eu bod yn cael eu brysbennu yn briodol  ac yn cael y gofal a'r driniaeth orau ar gyfer eu anghenion.

Gall pobl sydd angen prawf ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs) gael mynediad at brofion cartref ar-lein yn www.friskywales.org. Dylai unrhyw un sydd â chanlyniad prawf positif ar gyfer haint a drosglwyddir yn rhywiol gysylltu â'r rhif uchod i drefnu apwyntiad clinig brys.

I gael y newyddion diweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ewch i www.hduhb.wales.nhs.uk