Neidio i'r prif gynnwy

Lansio prawf a thrin gwddf dolur

Mae gwasanaeth newydd i benderfynu a oes angen gwrthfiotigau ar glaf ar gyfer symptomau dolur gwddf bellach ar gael mewn 18 fferyllfa ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae’r cynllun Profi a Thrin Dolur Gwddf yn galluogi cleifion i alw mewn i’r fferyllfa leol chael prawf cyflym a di-boen gan fferyllydd hyfforddedig.

Yn dilyn ymgynghoriad ac asesiad gan y fferyllydd, gellir rhoi meddyginiaeth i’r cleifion hynny lle mae angen gwrthfiotig.

Mewn llawer o achosion, mae dolur gwddf o ganlyniad i haint firaol yn hytrach na haint bacteriol sy’n golygu nad fydd gwrthfiotigau yn gweithio, a hunan-ofal a gorffwys yw’r camau gorau i’w cymryd.

Dengys canlyniadau cynllun peilot a gynhaliwyd yn gynharach eleni ym Myrddau Iechyd Cwm Taf a Betsi Calwalader y canlynol:

• Byddai bron 94% o’r cleifion a welwyd wedi ceisio apwyntiad gyda Meddyg Teulu pen a bai’r gwasanaeth ar gael.

• O gyfanswm o 601 ymgynghoriad dolur gwddf, ni chafodd 475 o gleifion gyflenwad o wrthfiotigau.

• Boddhad cleifion o 98% gyda’r gwasanaeth.

 

Meddai’r fferyllydd Ed John o Fferyllfa Clunderwen, sy’n cymryd rhan yn y cynllun: "Mae medru cynnig y gwasanaeth hygyrch hwn am ddim yn gyffrous, ac mae’n golygu nad oes angen i gleifion fynd at Feddyg Teulu oherwydd dolur gwddf.

"Gall cleifion ddefnyddio’r cyfleusterau ymgynghori i gael cyngor a thriniaeth preifat heb angen gwneud apwyntiad. Yn ystod yr ymgynghoriad, gellir cynnal prawf ar y claf i benderfynu a oes angen gwrthfiotigau.

"Bydd gwrthfiotigau yn cael eu darparu os ydy’r prawf yn dangos bod eu hangen, on dos nad oes eu hangen gall y fferyllydd gynnig cyngor ar hunan-ofal a meddyginiaeth lladd poen am ddim yn rhan o Wasanaeth Anhwylderau Cyffredin y GIG."

Ychwanegodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Rydym yn bles iawn o weithio gyda’n cydweithwyr mewn Fferyllfeydd Cymunedol ac yn cydnabod yr ystod o wasanaethau ychwanegol y maen nhw’n eu cynnig, yn aml fel pwynt cyswllt cyntaf, sydd wedi ymestyn y rôl maen nhw’n ei chwarae o fewn Gofal Sylfaenol.

"Mae’n bwysig ein bod yn parhau i roi gwybod i’r cyhoedd am y gwasanaethau sydd ar gael iddynt mewn fferyllfeydd cymunedol. Mae ein fferyllfeydd cymunedol yn gwneud llawer mwy y diwrnodau hyn na dim ond gweinyddu meddyginiaethau, ac mewn rhai achosion maen nhw’n gallu arbed mynd i weld Meddyg Teulu neu Adran Damweiniau ac Achosion Brys, ac am nad oes angen gwneud apwyntiad, maen nhw’n medru cynnig mynediad cyflym a hyblyg at ofal iechyd."

Dyma’r fferyllfeydd sy’n cynnig y gwasanaeth:

Sir Gaerfyrddin

  • Fferyllfa Porth Tywyn Ltd, 11a Ffordd yr Orsaf, Porth Tywyn
  • Fferyllfa Tesco, Lôn Morfa, Caerfyrddin
  • Fferyllfa Nigel Williams, Isfryn, Heol Caerfyrddin, Crosshands
  • Fferyllfa Cydweli, 16 Stryd Y Bont, Cydweli
  • Fferyllfa Gravells, Stryd Thomas, Llanelli
  • Fferyllfa Davies, Meddygfa Avenue Villa, Heol Brynmor, Llanelli
  • Fferyllfa Evans, Tŷ Elli, Vauxhall, Llanelli
  • Fferyllfa Evans, Machynys, The Avenue, Morfa, Llanelli
  • Harlow & Knowles, 8 Stryd Y Bont, Penygroes
  • P Griffiths Ltd, 2 Heol y Meinciau, Pontiets
  • Fferyllfa Sanclêr, Tŷ Rebecca, Sanclêr
  • Fferyllfa’r Bont, Dtryd Y Bont, Castell Newydd Emlyn

Ceredigion

  • Fferyllfa Lloyds, 8-10 North Parade , Aberystwyth
  • Fferyllfa Penryn, Banc y Dyffryn, Aberporth, Aberteifi

Sir Benfro

  • Fferyllfa Clunderwen, Crinow Glebe, Clunderwen
  • Fferyllfa Lloyds, 16-17 Bush Row, Hwlffordd
  • Fferyllfa Lloyds, 136 Stryd Robert, Aberdaugleddau
  • Fferyllfa Lloyds, Canolfan Iechyd, Heol Northfield, Arberth