Neidio i'r prif gynnwy

Hywel Dda yn dewis opsiwn ar gyfer Gwasanaethau Pediatrig

30 Tachwedd 2023

Mewn cyfarfod o’i Fwrdd ar 30 Tachwedd, bu aelodau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn trafod canfyddiadau’r ymgynghoriad ar ddarpariaeth gwasanaethau pediatrig yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili.

Daw’r cyfarfod Bwrdd yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng 26 Mai a 24 Awst 2023 wnaeth wahodd y cyhoedd, staff y bwrdd iechyd, sefydliadau partner a’r gymuned ehangach i rannu eu barn ar dri opsiwn posibl ar gyfer dyfodol Gwasanaethau Pediatrig brys ac argyfwng yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili.

Yn dilyn ystyriaeth drylwyr o ganfyddiadau’r ymgynghoriad a gafodd eu coladu a’u dadansoddi’n annibynnol gan Opinion Research Services (ORS), penderfynodd aelodau’r Bwrdd symud ymlaen gydag Opsiwn 1.

Dewiswyd yr opsiwn hwn gan y Bwrdd yn dilyn ystyriaeth helaeth o'r adroddiad ymgynghori, Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb Iechyd, yn ogystal â sgorio'r opsiynau gan randdeiliaid ac adborth o'r broses ystyriaeth gydwybodol. Wrth ddod i'w penderfyniad, canolbwyntiodd y Bwrdd ar yr angen i ddarparu a sicrhau cysondeb, ansawdd a diogelwch gofal i blant a'u teuluoedd.

Wrth gefnogi'r broses ymgynghori, comisiynwyd ORS i gynghori, coladu a rheoli'r ymatebion i'r ymgynghoriad, a hynny’n annibynnol. Mae eu hadroddiad cynhwysfawr ar ganfyddiadau’r ymgynghoriad ar gael i’w adolygu ar wefan y bwrdd iechyd: https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/canolbarth-a-gorllewin-iachach.

Mae'r broses ymgynghori ar gyfer dewis opsiwn ar gyfer darparu gwasanaethau brys ac argyfwng i blant ac ieuenctid yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili wedi ennill achrediad Sicrwydd Ansawdd Arfer Gorau gan y Sefydliad Ymgynghori.

Dywedodd yr Athro Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol a Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r penderfyniad a wnaed heddiw yn gam tuag at gadarnhau cynaliadwyedd ein gwasanaethau pediatrig i’r dyfodol. Drwy ddewis symud ymlaen ag Opsiwn 1, byddwn yn parhau i ddatblygu a gwella’r gwasanaeth presennol yn Sir Benfro yn ogystal â’n gwaith tuag at greu gwell gwasanaeth iechyd a chanolbarth a gorllewin Cymru iachach.

“Mae’r holl opsiynau a gyflwynwyd ac a ystyriwyd heddiw yn cynrychioli gwelliant i’r gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd yn Ysbyty Llwynhelyg ac i’r gymuned leol.”

Mae Opsiwn 1 yn cynnwys darparu gwasanaethau cleifion allanol ychwanegol i blant ac ieuenctid yn Ysbyty Llwynhelyg, ond nid yw’n cynnwys Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig (PACU).

Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r cyhoedd, staff, sefydliadau partner a’r gymuned ehangach am gymryd rhan weithredol yn y broses ymgynghori cyhoeddus ar ddyfodol gwasanaethau gofal brys ac argyfwng i blant ac ieuenctid yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili. Cymerwyd eu mewnwelediadau a’u hadborth i ystyriaeth yn ystod trafodaethau’r Bwrdd a’i broses gwneud penderfyniadau.

“Bydd y penderfyniad heddiw yn rhoi sicrwydd ac eglurder i rieni, cleifion a staff yn Sir Benfro ynghylch beth fydd eu gwasanaeth pediatrig yn y dyfodol. Bydd y bwrdd iechyd hefyd yn gwneud gwaith pellach i archwilio’r materion trafnidiaeth a gafodd eu codi yn ystod y broses ymgynghori.

“Mae’r Bwrdd Iechyd yn edrych ymlaen at gydweithio parhaus gyda’r holl randdeiliaid a chymunedau, a hynny tuag at greu model gofal iechyd cynaliadwy a chynhwysfawr ar gyfer y rhanbarth.”

Yn dilyn penderfyniad heddiw, bydd y bwrdd iechyd yn dechrau ar y gwaith o ddyfeisio cynllun gweithredu a fydd yn mapio’r hyn sydd angen digwydd a’r amserlenni arfaethedig ar gyfer symud o’r gwasanaeth presennol i wasanaeth y dyfodol. Rydym yn rhagweld y bydd y cynllun gweithredu yn cael ei rannu gyda’r Bwrdd yn gynnar yn 2024.

Roedd cyfarfod y bwrdd yn agored i aelodau'r cyhoedd ac mae ar gael i'w weld ar-lein. Mae papurau’r Bwrdd a drafodwyd yn y cyfarfod, a oedd yn cynnwys rhagor o wybodaeth fanwl am y tri opsiwn posibl, ar gael i’w gweld ar wefan y bwrdd iechyd: https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/eich-bwrdd-iechyd/cyfarfodydd-y-bwrdd-2023/agenda-a-phapuraur-bwrdd-30-tachwedd-2023.