Neidio i'r prif gynnwy

Hywel Dda i ymgysylltu ar ddyfodol Gwelyau Ysbyty Tregaron

21 Gorffennaf 2024

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gwahodd aelodau o'r cyhoedd i rannu eu barn am y posibilrwydd o ddatgomisiynu'r naw gwely sydd ar hyn o bryd yn Ysbyty Cymunedol Tregaron.

Bydd y cynnig ar gyfer model gofal newydd, sy'n rhan o brosiect ehangach Cylch Caron, yn gweld symud gofal o'r ysbyty i gartrefi pobl eu hunain yn cael ei alluogi drwy fodel gwahanol o gymorth. Dim ond trwy staff sy'n gweithio mewn gwahanol ffyrdd y gellir cyflawni hyn, gan ganolbwyntio ar gadw pobl yn iach gartref, a gyda mwy ar gael i helpu pobl yn y gymuned.

Eglurodd Peter Skitt, Cyfarwyddwr Sir Ceredigion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Bydd aelodau o'n cymuned leol yn gyfarwydd â'n gweledigaeth, sy'n cynnwys datblygu model gofal Cylch Caron gyda’r ganolfan adnoddau integredig yn rhan ohono."

Ychwanegodd Dr Sion James, Dirprwy Gyfarwyddwr Gofal Sylfaenol a Meddyg Teulu lleol Tregaron: "Mae Ysbyty Tregaron wedi bod yn rhan o'n cymuned leol ers nifer o flynyddoedd, ac mae angen i ni ddarparu amrywiaeth o wasanaethau i'n cymuned sy'n diwallu eu hanghenion presennol ac yn y dyfodol.

"Mae'r Ganolfan yn brosiect cyffrous ac unigryw sy'n ceisio cynnig llawer o gyfleoedd a buddion i bobl yn yr ardal. Bydd hyn yn dod ag ystod o wasanaethau ynghyd mewn canolfan ganolog ar gyfer Tregaron a'r ardaloedd gwledig cyfagos. Bydd y prosiect yn creu model gwledig arloesol o ofal yn y gymuned i ddiwallu anghenion gofal, iechyd a thai yn yr ardal, sy'n addas ar gyfer heddiw ac yn gynaliadwy ar gyfer yfory."

Mae cynllun Cylch Caron yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ceredigion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Llywodraeth Cymru. Bydd yn cynnwys meddygfa, fferyllfa gymunedol, clinigau cleifion allanol a chyfleusterau nyrsio cymunedol a gofal cymdeithasol, yn ogystal â fflatiau gofal ychwanegol ac unedau iechyd a gofal cymdeithasol integredig.

Cyhoeddodd Cyngor Sir Ceredigion yn ddiweddar eu bod yn gwahodd cwmnïau i dendro am ddylunio ac adeiladu'r ganolfan cwbl integredig newydd ar gyfer iechyd, gofal cymdeithasol a thai.

Ychwanegodd Peter: "Wrth i ni ddatblygu ein cynllun Cylch Caron, mae angen i ni hefyd ystyried ein model gofal presennol ar gyfer cleifion yn Ysbyty Tregaron. Er gwaethaf ymdrechion i recriwtio i swyddi, nid yw ein lefel bresennol o staffio yn ddigonol, ac mae ein rota staffio yn fregus. Mae ein staff wedi lleisio pa mor heriol yw cefnogi ein cleifion drwy ein model gofal presennol yn Ysbyty Tregaron. Ein cynnig yw symud ein staff o fod yn yr ysbyty a gofalu am y naw gwely, i fod yn y gymuned. Bydd hyn yn ein galluogi i gefnogi mwy o gleifion yn eu cartrefi.

Mae model gofal Cylch Caron yn canolbwyntio ar ddarparu mwy o nyrsio cymunedol a gofal gwell yng nghartrefi pobl eu hunain. Byddai hyn yn cael ei gyflawni trwy nyrsio allgymorth a mwy o ddarpariaeth gofal brys yr un diwrnod. Bydd apwyntiadau cleifion allanol yn parhau i gael eu darparu o Ysbyty Tregaron a bydd yr adeilad yn ganolfan i'n staff nes bydd Canolfan Adnoddau Integredig Cylch Caron newydd yn cael ei hadeiladu.

Mae Peter yn parhau: "Rydyn ni'n gwybod bod bod yn agos at adref, neu yn eu cartref, yn bwysig i'n cleifion. Rydym am gynyddu'r cyfleoedd i bobl yng Ngheredigion allu aros yn iach am fwy o amser, gyda chefnogaeth staffio well yn eu cartrefi eu hunain.

"Ar hyn o bryd, mae'r cleifion yn ein gofal yn Ysbyty Tregaron yn byw mwy na deng milltir i ffwrdd o'r ysbyty, ac mae'r rhan fwyaf yn ffit yn feddygol. Mae hyn wedi bod yn gyffredin ers amser maith. Mae ein cynnig i symud ein staff i ganolbwyntio ar ofal uwch yng nghartrefi pobl yn ffordd wahanol o gefnogi ein cleifion. Bydd yn ein galluogi i ddarparu ein model gofal cymunedol yn gyflymach a chefnogi mwy o bobl yn ein cymunedau.

"Mae cleifion wedi rhannu'n gyson y byddai'n well ganddyn nhw fod gartref, neu'n agosach at adref, ac mae hyn yn tueddu i alluogi eu hadferiad. Byddwn yn gweithio gyda'n cleifion a'u teuluoedd, a'n cymuned ehangach, i ddeall eu barn yn ystod y cyfnod ymgysylltu arfaethedig.”

Bydd y cynnig i ddatgomisiynu’r naw gwely a’r cyfnod ymgysylltu yn cael eu trafod yng nghyfarfod y Bwrdd a gynhelir ar 25 Gorffennaf. Bydd y cyfnod ymgysylltu pedair wythnos yn lansio ar 1 Awst ac yn para tan 29 Awst 2024. Bydd unigolion yn gallu mynychu digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb ac yn gallu rhannu eu barn trwy borth Dweud Eich Dweud y Bwrdd Iechyd. Bydd adborth o'r ymgysylltiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Bwrdd Iechyd ym mis Medi.

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau a sut y gall unigolion rannu eu barn yn cael ei rhannu ddiwedd mis Gorffennaf.

DIWEDD