Neidio i'r prif gynnwy

Helpwch i wella eich iechyd meddwl trwy fwynhau un o 10 Taith Gerdded Orau Sir Benfro

01 Chwefror 2022

Mae Sir Benfro yn baradwys i gerddwyr. Mae arfordir dramatig ac amrywiol y sir yn bleser i gerddwyr, gan gynnwys baeau, traethau a chlogwyni godidog, pentiroedd folcanig, dyffrynnoedd rhewlifol a threfi hynod. Gyda gweithwyr iechyd proffesiynol yn ein hannog i ymarfer hunanofal a mabwysiadu newidiadau bach i helpu i wella ein lles meddwl, dyma'r amser perffaith i gael ychydig o awyr iach a mwynhau taith gerdded yn un o'r lleoliadau syfrdanol hyn.

Buddion traddodiadol ymarfer corff fu gwella a chynnal ffitrwydd corfforol ond, yn fwy diweddar, mae budd ymarfer corff i wella iechyd meddwl wedi dod i’r amlwg. Mae ymarfer corff yn lleihau'r hormonau straen fel cortisol ac yn cynyddu endorffinau. Endorffinau yw cemegau ‘teimlo’n dda’ naturiol y corff, a phan gânt eu rhyddhau trwy ymarfer corff, caiff eich hwyliau hwb naturiol. Yn ogystal ag endorffinau, mae ymarfer corff hefyd yn rhyddhau adrenalin, serotonin, a dopamin. Mae'r cemegau hyn yn gweithio gyda'i gilydd i wneud i chi deimlo'n dda.

Dywedodd Dr Kerry Donovan, Pennaeth Seicoleg a Therapïau Seicolegol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, “Mae bwyta’n iach, gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, cadw patrymau cysgu rheolaidd, sefydlu strwythur da ar gyfer ein dyddiau a chymryd rhan mewn gweithgareddau ymlacio bob amser yn bwysig i hybu iechyd a lles. Os ydych chi'n profi argyfwng iechyd meddwl neu'n teimlo bod angen cymorth ychwanegol arnoch chi, gofynnwch am help. Mae’r gwasanaethau hyn yn parhau i fod ar gael ac rydym yma i helpu.”

I gael gwybodaeth am y gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ewch i: IAWN - Gwybodaeth, ymwybyddiaeth a llesiant nawr - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)

Gyda mwy na £700m yn cael ei fuddsoddi’n flynyddol, mae Llywodraeth Cymru yn gwario mwy ar iechyd meddwl nag ar unrhyw agwedd arall ar y GIG. Os ydych yn pryderu am eich iechyd meddwl, gallwch ddod o hyd i gyngor a chymorth ar sut i ofalu am eich lles meddwl yma: Sut wyt ti? - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Mae un elusen iechyd meddwl wledig, Sefydliad DPJ, sydd wedi’i lleoli yn Sir Benfro ond sy’n cwmpasu Cymru gyfan, yn annog y rhai sy’n byw yng nghefn gwlad i fynd allan a cherdded, neu redeg, i helpu eu hiechyd meddwl.

Helpodd Emma Picton-Jones, sylfaenydd Sefydliad DPJ, i greu her flynyddol @_run1000 y llynedd yn ystod y cyfyngiadau symud. Yr her oedd rhwng Lloegr, Iwerddon, yr Alban, Cymru a Seland Newydd i weld tîm pwy allai redeg/cerdded y mwyaf o filltiroedd drwy gydol mis Ionawr tra’n codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iechyd meddwl gwledig a chodi arian ar gyfer elusennau iechyd meddwl gwledig gan gynnwys y Sefydliad DPJ.

Dywedodd Emma Picton-Jones, “Gall hwn fod yn gyfnod eithaf anodd o’r flwyddyn i ffermwyr a’r rhai ohonom sy’n byw yng nghefn gwlad. Roedden ni eisiau creu rhywbeth positif i bawb gymryd rhan ynddo sy’n eu cael nhw allan ac yn actif. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan eto eleni a’r rhoddion.”

Dyma rai o'r teithiau cerdded gwych ar draws Sir Benfro:

  • Mynydd Carningli: Copa creigiog gyda phentyrrau o glogfeini, wyneb gogleddol tywyll, rhostir eang o amgylch ac awyr wyllt yn gyffredinol. Mae’n gorwedd ar hyd ymyl Bae Ceredigion, gan wyro dros ddarn godidog o arfordir Cymru.
  • Ty Ddewi: Mae Penrhyn Tyddewi yn lle o bererindod, natur amrwd a moroedd gwyllt. Gan adael dinas leiaf Cymru ar ôl, ewch i lawr Goat Street, gan barhau i lawr ffordd fach i Fae Santes Non.
  • Mynyddoedd y Preseli: Mynyddoedd gwyllt a hyfryd y Preseli. Yn gartref i dafarndai ardderchog sydd wedi hen anghofio, a llwybrau cerdded a safle gwreiddiol Côr y Cewri.
  • Cylchdaith Penstrwmbl  Saif Goleudy Penstrwmbl ar ynys greigiog, wedi'i gwahanu oddi wrth y tir mawr gan ddarn cul o ddŵr. Mae’n fan cychwyn godidog ar gyfer taith gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro.
  • Porthgain i’r Morlyn: Mae Porthgain yn bentref pysgota hyfryd gyda gorffennol diwydiannol garw - fel y tystia adfeilion brics iasol uwchben yr harbwr. Dilynwch Lwybr Arfordir Penfro tua’r gorllewin, a darganfyddwch olion yr hen ddiwydiant chwarela gwenithfaen, sy’n dal i’w weld yn yr hen drac rheilffordd a’r adeiladau adfeiliedig.
  • Pyllau Lili Ystagbwll a Thraethau Aur: Wrth droelli drwy Ystâd Ystagbwll, sydd bellach yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae gan y daith chwe milltir hon naws ysgafn iddi, ond mae yr un mor brydferth ag arfordir mwy gwyllt Sir Benfro.
  • Penthyn Marloes: Mae Penrhyn Marloes yn cynnig golygfeydd arfordirol dramatig a golygfeydd o'r ynys
  • Coedwig a thraeth Abermawr: Mae hon yn gylchdaith drwy goedwigoedd a dolydd clychau’r gog, traeth graean a chors. Mae Abermawr yn cynnig egwyl ysgafn ar un o rannau mwyaf garw’r arfordir.
  • Solfach: Mae pentref tlws Solfach yng nghanol wyth milltir o olygfeydd arfordirol digyffwrdd yn ymestyn o Niwgwl yn y dwyrain i Dyddewi yn y gorllewin.
  • Garn Fawr: Dringwch y brigiad folcanig creigiog hwn ar benrhyn Pencaer i gael golygfeydd godidog o arfordir gogledd Sir Benfro.