Neidio i'r prif gynnwy

Helpwch i wella eich iechyd meddwl trwy fwynhau taith gerdded yng ngardd Cymru

01 Chwefror 2022

Gelwir Sir Gaerfyrddin yn aml yn Ardd Cymru ac mae’n cynnig cyfle i gerddwyr archwilio coetir hudolus, arfordir trawiadol a chestyll hardd. Gyda gweithwyr iechyd proffesiynol yn ein hannog i ymarfer hunanofal a mabwysiadu newidiadau bach i helpu i wella ein lles meddyliol, dyma'r amser perffaith i gael ychydig o awyr iach a mwynhau taith gerdded yn un o'r lleoliadau syfrdanol hyn.

Buddion traddodiadol ymarfer corff fu gwella a chynnal ffitrwydd corfforol ond, yn fwy diweddar, mae budd ymarfer corff i wella iechyd meddwl wedi dod i’r amlwg. Mae ymarfer corff yn lleihau'r hormonau straen fel cortisol ac yn cynyddu endorffinau. Endorffinau yw cemegau ‘teimlo’n dda’ naturiol y corff, a phan gânt eu rhyddhau trwy ymarfer corff, caiff eich hwyliau hwb naturiol. Yn ogystal ag endorffinau, mae ymarfer corff hefyd yn rhyddhau adrenalin, serotonin, a dopamin. Mae'r cemegau hyn yn gweithio gyda'i gilydd i wneud i chi deimlo'n dda.

Dywedodd Dr Kerry Donovan, Pennaeth Seicoleg a Therapïau Seicolegol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, “Mae bwyta’n iach, gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, cadw patrymau cysgu rheolaidd, sefydlu strwythur da ar gyfer ein dyddiau a chymryd rhan mewn gweithgareddau ymlacio bob amser yn bwysig i hybu iechyd a lles. Os ydych chi'n profi argyfwng iechyd meddwl neu'n teimlo bod angen cymorth ychwanegol arnoch chi, gofynnwch am help. Mae’r gwasanaethau hyn ar gael o hyd ac rydym yma i helpu.”

I gael gwybodaeth am y gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ewch i: IAWN - Gwybodaeth, ymwybyddiaeth a llesiant nawr - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)

Gyda dros £700m yn cael ei fuddsoddi’n flynyddol, mae Llywodraeth Cymru yn gwario mwy ar iechyd meddwl nag ar unrhyw agwedd arall ar y GIG. Os ydych yn pryderu am eich iechyd meddwl, gallwch ddod o hyd i gyngor a chymorth ar sut i ofalu am eich lles meddwl yma: Sut wyt ti? - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Os ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn yn byw yng Nghymru ac yn profi gorbryder, iselder neu straen ysgafn i gymedrol, yna gallwch chi gael mynediad at wasanaeth therapi ar-lein rhad ac am ddim trwy SilverCloud heb fod angen mynd at eich meddyg teulu trwy fynd i nhswales.silvercloudhealth.com/signup/

Dyma rai o'r teithiau cerdded gwych ar draws Sir Gaerfyrddin:

  • Llyn y Fan Fach, Llanddeusant: O amgylch y llyn mae taith gerdded bleserus ar gyfer pob lefel, ond gall y rhai sydd eisiau taith gerdded fwy heriol ddringo'r mynyddoedd ac edmygu'r llyn rhewlifol oddi uchod.
  • Mwyngloddiau aur yn Dolaucothi, Pumpsaint: Dyma'r unig fwyngloddiau aur Rhufeinig hysbys ym Mhrydain. Dechreuwch gyda thaith pwll tanddaearol a rhowch gynnig ar chwilio am aur cyn i chi gychwyn ar un o'r chwe llwybr sydd wedi'u arwyddo’n dda sy'n mynd â chi i'r coed ac o amgylch yr ystâd.
  • Taith gerdded Pen-blwydd Dylan Thomas, Talacharn: r rhai sydd eisiau dilyn yn ôl traed Dylan Thomas, mae llwybr arfordirol Talacharn yn arddangos y gorau o’r ardal.
  • Taith gerdded Parc Dŵr Tywodlyd Llanelli: Mae’r daith hamddenol hon o amgylch llyn Parc Dŵr Llanelli ac ar hyd Llwybr Arfordirol y Mileniwm yn un i bawb.
  • Taith Ogof Twm Sion Cati, Rhandirmwyn: Roedd y lleidr pen ffordd Twm Sion Cati yn enwog yn yr ardal ac mae’r daith hon yn mynd i mewn i’r coetir godidog ac ar hyd yr Afon Tywi hyd at ogof y lleidr pen ffordd.
  • Taith Cydweli: Mae'r llwybr hwn yn cynnwys cestyll canoloesol, glannau afonydd hardd a bywyd gwyllt hyfryd. Byddwch yn ymweld â chastell canoloesol mwyaf cyflawn Sir Gaerfyrddin.
  • Taith Llandeilo a Dinefwr: O'r dref, ewch allan i Ddyffryn Tywi ac i barcdir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Ninefwr.
  • Taith Cenarth: Mae’n debyg mai’r ffordd orau o gyrraedd pentref prydferth Cenarth yw’r llwybr trawiadol hwn ar lan yr afon ar hyd Afon Teifi.
  • Arfordir a Chastell Llansteffan: Cychwynnwch ar draethau tywodlyd Llansteffan a gwneud eich ffordd drwy’r coetir hudolus i weld prydferthwch Bae Scott.
  • Carreg Cennen, Trapp: Mae Carreg Cennen yn un o gestyll adfeiliedig delfrydol yr ardal. Cyfeiriwyd ato fel un o adfeilion mwyaf rhamantus Prydain ac mae’n werth y daith gerdded egnïol.