Neidio i'r prif gynnwy

Gwneud cynlluniau i ymweld â rhywun yn yr ysbyty?

4 Ionawr 2024

Rydym yn gofyn i unrhyw un sy’n profi symptomau anadlol neu gastrig ar hyn o bryd (e.e. ffliw, gastroenteritis), neu sydd wedi bod mewn cysylltiad â phobl eraill sydd â’r symptomau hyn, i osgoi ymweld â ffrindiau a pherthnasau yn yr ysbyty i gyfyngu ar ledaeniad yr haint.

Peidiwch ag ymweld ag unrhyw un o’n hysbytai os ydych chi’n:

  • teimlo'n sâl;
  • profi symptomau tebyg i ffliw neu haint anadlol;
  • dioddef o, neu wedi cael, dolur rhydd a/neu chwydu yn y 48 awr ddiwethaf;
  • wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw un sydd â'r symptomau hyn yn ystod y 48 awr ddiwethaf.

Dywedodd Fran Howells, Pennaeth Atal Heintiau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Gall salwch fel y ffliw, dolur rhydd a chwydu basio o un person i’r llall yn hawdd iawn ac yn nodweddiadol ar yr adeg hon o’r flwyddyn rydym yn gweld bod y firysau hyn yn cylchredeg yn amlach y gymuned.

“Gallant fod yn ddifrifol i gleifion sâl ac agored i niwed, felly byddwn yn annog pobl i beidio ag ymweld â chleifion yn yr ysbyty ar hyn o bryd os ydych chi neu os ydych chi wedi profi’r salwch hyn yn ddiweddar. Mae’n bwysig sicrhau eich bod yn hollol rhydd rhag symptomau cyn ymweld â chleifion.

"Golchi ein dwylo yw un o'r ffyrdd gorau o atal lledaeniad pob haint. Felly cofiwch y bydd golchi ein dwylo'n rheolaidd yn ein hamddiffyn ni a'r bobl rydyn ni'n gofalu amdanyn nhw rhag mynd yn sâl."  

Os oes gennych apwyntiad ysbyty a’ch bod wedi profi symptomau salwch heintus fel dolur rhydd, chwydu, twymyn neu symptomau ffliw yn y 48 awr ddiwethaf, cysylltwch â ni (drwy’r manylion cyswllt ar eich llythyr apwyntiad) i weld a yw eich apwyntiad yn frys, neu os gellir ei aildrefnu nes eich bod yn teimlo'n well.

I gael rhagor o gyngor ar atal heintiau rhag lledaenu, ewch i:

Cyngor ar reoli heintiau - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru) (agored dolen newydd)