Neidio i'r prif gynnwy

Gwella mynediad at ofal trawma

Bydd gan gleifion sy’n dioddef trawma mawr neu gymedrol yn Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro a’r ffiniau fynediad at wasanaethau cryfach,

a dylai hyn wella eu canlyniadau o ran iechyd a llesiant. Daw hyn yn dilyn cymeradwyaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (ar ddydd Iau 26 Medi) i adnoddau ychwanegol.

I gefnogi’r Ganolfan Trawma Mawr yng Nghaerdydd, a fydd yn darparu gwasanaethau arbenigol iawn, cymeradwyodd y Bwrdd Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin fel yr Uned Trawma dros dro ar gyfer ardal Hywel Dda nes adeiladu’r ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynewydd.

Mae hon yn rhan hanfodol o sefydliad y model Rhwydwaith Trawma Mawr ar gyfer De, Canolbarth a Gorllewin Cymru. Bu i’r Bwrdd hefyd ystyried a derbyn adborth o ymarfer ymgysylltu gyda’r gymuned ar y datblygiadau hyn yn ystod yr haf, yn ogystal ag ystyriaethau Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda.

Cymeradwyodd y Bwrdd nifer o argymhellion yn cynnwys buddsoddiad o £70,000 i swyddi meddygol, nyrsio a therapi sydd eu hangen ar gyfer yr Uned Trawma yn chwarter olaf y flwyddyn ariannol hon (a £515,289 yn flynyddol). Yn ogystal, gwnaeth y Bwrdd gydnabod yr angen am gyfraniad o £165,500 y flwyddyn hon, gan godi i £2.5 miliwn y flwyddyn fel ein cyfran o’r arian sydd angen i gefnogi’r gwaith o sefydlu’r Ganolfan Trawma Mawr yng Nghaerdydd, yn amodol ar gymeradwyaeth Achos Busnes Rhwydwaith Trawma Mawr Cymru Gyfan.

Meddai Dr Stuart Gill, Ymgynghorydd Anaestheteg ac Arweinydd Clinigol Trawma Mawr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cleifion de a gorllewin Cymru dan anfantais o gymharu â gweddill y DU gan eu bod yn byw yn yr unig ranbarth lle nad oes Rhwydwaith Trawma Mawr. Mae’n hanfodol bod Hywel Dda yn medru cyfrannu’n effeithiol tuag at y rhwydwaith. Agwedd allweddol o hyn yw sefydlu uned trawma weithredol. Bydd y cydlynu gwell o lwybrau gofal wrth reoli trawma mawr yn gwella canlyniadau cleifion a’u profiadau.”

Mae’r argymhellion yn mynd i’r afael â rhai o bryderon yr ymarfer ymgysylltu, er enghraifft trwy fuddsoddi mewn cymorth clinigol a gwasanaethau adsefydlu ychwanegol i gefnogi cleifion lleol. Cyflwynwyd barn amrywiol gan y cyhoedd ar leoliad yr Uned Trawma, ond Ysbyty Glangwili sy’n bodloni orau safonau Uned Trawma, sy’n cynnig nifer o fuddion. Nodwyd hefyd y bydd Ysbyty Bronglais, Aberystwyth ac Ysbyty llwynhelyg, Hwlffordd yn cefnogi Uned Trawma Ysbyty Glangwili, ac ni fyddant yn cael eu his-raddio o ganlyniad i’r datblygiad hyn. Bydd ysbytai Bronglais a Llwynhelyg yn parhau i dderbyn cleifion ag anafiadau trawmatig llai difrifol ac yn cadw’r gallu i sefydlogi a throsglwyddo cleifion sy’n dioddef trawma cymedrol neu ddifrifol naill ai i’r Uned Trawma neu’r Ganolfan Trawma Mawr.

Meddai Karen Miles, Cyfarwyddwr Cynllunio, Perfformiad, Gwybodeg a Chomisiynu: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’n staff ac i’r cyhoedd sydd wedi cyfrannu i’r ymgysylltu ar trawma mawr yn ardal Hywel Dda. Bydd y bwrdd iechyd yn parhau i weithio ar lefel leol a chenedlaethol i ddatblygu’r rhwydwaith trawma mawr, bydd adborth o’r ymarfer ymgysylltu yn bwydo mewn i hyn a bydd yn cael ei adrodd i’r Bwrdd Iechyd.”

Bwriedir i’r Rhwydwaith Trawma Mawr fod yn weithredol o fis Ebrill 2020, ond bydd datblygiadau mewn camau ac yn barhaus yn ystod y pum mlynedd cyntaf. Bydd adnoddau adsefydlu lleol yn cael eu hadolygu ar ôl blwyddyn i asesu a oes angen mwy o staff a/neu ward bwrpasol ar gyfer trawma cymedrol.