Neidio i'r prif gynnwy

Gweithwyr Ynys Sgomer wedi'u brechu gan nyrsys y bwrdd iechyd

Ymwelodd tri aelod o dîm brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ag Ynys Skomer ddydd Mercher i frechu gweithwyr yr ynys.

Aeth Lorraine Williams, Nia Jones a Laura French, imiwneiddiwyr nyrsio cymunedol yn y tîm imiwneiddio a brechu ar gwch i’r ynys i roi ail ddosau i 12 o aelodau staff yr ynys.

Dywedodd Lisa Morgan, Pennaeth Ymddiriedolaeth Ynysoedd a Bywyd Gwyllt Morol De a Gorllewin Cymru: "Rydym yn hynod ddiolchgar bod Hywel Dda wedi gwneud eu gorau glas i frechu ein timau ar yr ynys. Byddai eu cael yn ôl i'r tir mawr i gael eu brechu wedi bod yn anodd.

"Mae holl staff yr ynys yn ymwneud â phobl yn eu rolau amrywiol, felly roeddem yn awyddus i'w gwarchod cyn gynted â phosibl. Mae eu swyddi'n cynnwys helpu ymwelwyr dydd oddi ar gychod, dangos bywyd gwyllt iddynt a rheoli'r llety ar yr ynys. Mae hyn yn golygu - er eu bod yn byw ar ynys anghysbell maen nhw mewn gwirionedd yn dod i gysylltiad â llawer o bobl. ”

Mae Ynys Skomer yn derbyn gofal gan staff sy'n preswylio ar yr ynysoedd am naw mis bob blwyddyn, ac mae llawer ohonynt wedi'u cofrestru gyda meddygon teulu y tu allan i orllewin Cymru, rhai mor bell i ffwrdd â Northumberland a'r Alban.

Mae'r Ynys, sy'n cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin, wedi'i lleoli oddi ar arfordir Sir Benfro ac wedi'i hamgylchynu gan warchodfa natur forol. Mae'n adnabyddus am ei fywyd gwyllt ac mae'n gartref i'r nythfa fwyaf o Bâl Atlantaidd yn Ne Prydain.

"Rwy’n amau ​​bod brechu 12 o bobl ar ynys yn un o brosiectau mwy anarferol Hywel Dda. Ond ni allem fod yn fwy diolchgar a gobeithio bod y nyrsys wedi mwynhau teithio ar y gwch, cwrdd â thîm yr ynys a threulio peth amser gyda’r Pâl."

nurses on Skomer Island