Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Profion Gwaed yn Llanelli

Ebrill 26 2024

O ddydd Llun 20 Mai 2024, bydd gwasanaethau Fflebotomi (profion gwaed) ar gyfer cleifion Hywel Dda sy'n byw yn ardal Llanelli yn cael eu darparu o'r Ganolfan Brechu Torfol yn Nafen, Llanelli.

Bydd y gwasanaeth yn symud o’i leoliad presennol yn Antioch, Llanelli, a’r diwrnod olaf ar gyfer profion gwaed yn y Ganolfan fydd dydd Gwener, 17 Mai 2024.

Mae Dylan Jones, Pennaeth Gwasanaethau Patholeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn esbonio: “Wrth wrando ar adborth gan ein cleifion a fynegodd bryderon am ein gwasanaeth yn Llanelli, rydym wedi penderfynu symud y gwasanaeth gwaed yn Llanelli i’r Ganolfan Brechu Torfol yn Nafen. Mae cleifion wedi rhannu adborth o’r blaen ar y diffyg lle i barcio, lle i gleifion aros am eu hapwyntiad, a hyd ein rhestr aros.

“Trwy symud y gwasanaeth i Ddafen byddwn yn gallu cynyddu’r ddarpariaeth gwasanaeth a mynd i’r afael â rhai o’r materion a godwyd gan ein cleifion.

“Bydd ein system archebu ar-lein, a’n llinell ffôn, ar gyfer profion gwaed yn cynnwys apwyntiadau Dafen ar gael wythnos nesaf – gan roi’r dewis i gleifion drefnu eu hapwyntiad o 20 Mai ymlaen.”

Bydd y Ganolfan Brechu Torfol yn Llanelli yn lleoliad cyfarwydd i drigolion Llanelli a’r cyffiniau fel lleoliad ar gyfer brechiadau a phrofion COVID-19.

Mae Dylan yn parhau: “Rydym yn ymwybodol y bydd angen cymorth ychwanegol ar rai unigolion sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio i Ddafen. Os oes angen cymorth ar unrhyw un o’n cleifion i gael mynediad at y gwasanaeth, byddwn yn darparu gwasanaethau ar ddau ddiwrnod yr wythnos i unigolion gael eu hapwyntiad yn Ysbyty Tywysog Philip. Gan fod parcio yn her yn Ysbyty Tywysog Philip, bydd yr apwyntiadau hyn yn cael eu cyfyngu i gleifion sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.”

Mae symud i'r Ganolfan Brechu Torfol yn Nafen yn symudiad dros dro, gan fod cynlluniau tymor hwy yn bodoli i symud y gwasanaeth i fod yn rhan o ddatblygiad Pentre Awel y flwyddyn nesaf.

Ychwanegodd Sarah Perry, Cyfarwyddwr Sirol Dros Dro Sir Gaerfyrddin a Rheolwr Cyffredinol Patholeg a Radioleg, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn ymwybodol y gallai fod gan drigolion Llanelli gwestiynau ac adborth am adleoli ein Gwasanaeth Fflebotomi i Ddafen.

“O 1 Mai 2024, am gyfnod o wyth wythnos, byddwn yn gwahodd defnyddwyr gwasanaeth presennol ac yn y dyfodol i rannu eu barn ar effaith y newid hwn. Bydd unigolion yn gallu rhannu eu hadborth gyda ni drwy gwblhau arolwg a fydd ar gael i gleifion sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn Antioch, Dafen, ac Ysbyty Tywysog Philip, ac ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd (agor mewn ffenest newydd).

“Mae dau ddigwyddiad galw heibio hefyd wedi’u cynllunio ar gyfer 3yp - 6yp ddydd Mercher 8 Mai, a dydd Mawrth 14 Mai, yng Nghanolfan Antioch. Yn ystod y digwyddiadau, bydd staff y Bwrdd Iechyd ar gael i ateb unrhyw gwestiynau am symud y gwasanaeth a gwrando ar adborth gan aelodau o’n cymuned.”

Bydd y cyfnod ymgysylltu a fydd yn ceisio barn ar effaith symud y gwasanaeth yn rhedeg o 1 Mai i 26 Mehefin 2024. Bydd arolygon ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd, a bydd copïau papur ar gael i ddefnyddwyr gwasanaeth. Bydd yr adborth a dderbyniwyd am newid lleoliad dros dro yn helpu’r Bwrdd Iechyd i ddeall beth fydd angen i’r Gwasanaeth Fflebotomi ei wneud i gefnogi cleifion yn ystod ac ar ôl eu hadleoli i Ddafen.

Gall cleifion Hywel Dda drefnu eich hapwyntiad prawf gwaed drwy ymweld â tudalen gwe apwyntiadau prawf gwaed yma (agor mewn ffenest newydd) neu drwy ffonio’r Hyb Cyfathrebu ar 0300 303 9642.