Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith celf cydweithredol Hywel yn cael sylw yn yr Eisteddfod

3 Awst 2026

Mae cannoedd o straeon, profiadau a gweithredoedd gofal wedi'u gwehyddu i mewn i Blanced Hywel, gwaith celf trawiadol ar raddfa fawr a grëwyd gan staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a fydd yn cael ei ddadorchuddio'n swyddogol yn eisteddfod Y Garreg Las ddydd Mercher (5 Awst).

Dan arweiniad yr artist tecstilau Llio James, cynhaliwyd cyfres o weithdai ar draws safleoedd Hywel Dda lle gwahoddwyd staff i greu lapiau edafedd unigol gan ddefnyddio pecynnau pothell-bilsen wedi'u hailgylchu gan y GIG a gasglwyd gan dimau Fferyllfa a gweddillion edafedd a roddwyd gan felin wlân Sir Benfro, Melin Tregwynt.

Mae'r gwaith celf wedi'i gomisiynu'n arbennig i'w arddangos yn eisteddfod y Garreg Las eleni yn Llantwd, gogledd Sir Benfro, cyn cael ei leoli'n barhaol o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Bydd y lansiad swyddogol yn Ystafell Addysg Y Lle Celf am 5pm ddydd Mercher 5 Awst.

Dywedodd Kathryn Lambert, sy'n arwain Tîm Celfyddydau mewn Iechyd Hywel Dda: “Roedd y weithred syml, ailadroddus o lapio edafedd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer seibiant, creadigrwydd, ymwybyddiaeth ofalgar, cysylltiad a myfyrio, gyda phob cyfraniad yn dod yn rhan annatod o'r gwaith celf cyfunol hwn.

“Ysbrydolwyd prosiect Blanced Hywel gan dreftadaeth tecstilau gyfoethog gorllewin Cymru - o wneud cwiltiau traddodiadol i ddiwydiant gwlân hanesyddol y rhanbarth.

“Mae Blanced Hywel yn dathlu creadigrwydd, cynaliadwyedd a chymuned. Mae'n adlewyrchu ymdrechion, gofal ac ymroddiad cyfunol y bobl sy'n cefnogi iechyd a lles ein cymunedau bob dydd.”

Mae'r prosiect yn rhan o ymgyrch genedlaethol y GIG Gwneud Celf Nid Gwastraff, sy'n hyrwyddo dulliau creadigol o leihau ac ailddychmygu gwastraff y GIG trwy ymyriadau artistig sy'n gwella lles ac amgylcheddau gofal iechyd.

Fe'i hwyluswyd gan Dîm Celfyddydau mewn Iechyd Hywel Dda fel rhan o Raglen Gweithgareddau Creadigol ehangach ar gyfer Llesiant Staff a ariennir gan Elusennau Hywel Dda.

Meddai artist Llio James: “Mae gymaint o elfennau yn y prosiect yma dwi wedi’u mwynhau, ond un o’r rhai mwyaf gwerthfawr yw gweld staff yn cael y cyfle i stopio, i weithio’n rhydd ac yn greadigol mewn amgylchedd nad yw fel arfer yn greadigol. 

Mae wedi bod yn hyfryd gweld cyfranogwyr yn defnyddio’r un deunyddiau a’r un canllawiau, ond yn creu darnau sy’n adlewyrchu eu hunaniaeth eu hunain. Mae pob darn mor unigryw; nid oes un yr un fath. 

Dwi hefyd wedi mwynhau gweld sut mae syniad a ddechreuodd yn fy meddwl wedi tyfu ymhell y tu hwnt i mi, wedi’i siapio a’i ehangu gan bawb a gymerodd ran yn y gweithdai. Eu cyfraniad nhw sydd wedi dod â’r syniad yn fyw; ni allwn fod wedi gwneud hyn hebddyn nhw.”

Parhaodd Kathryn: “Hoffwn ddiolch yn arbennig i Elusennau Hywel Dda; y staff a gymerodd ran; Tîm Fferyllfa Hywel Dda am gasglu pecynnau pothell gwastraff; a Melin Tregwynt am roi’r edafedd a ddefnyddiwyd drwy gydol y prosiect yn hael.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Rydym wrth ein bodd bod rhoddion caredig i’r elusen wedi ein galluogi i gefnogi Blanced Hywel trwy gyllid elusennol. Mae’r prosiect hwn wedi dod â staff ynghyd wrth greu gwaith celf parhaol sy’n dathlu ymroddiad y rhai sy’n gofalu am ein cymunedau bob dydd. Mae’n hyfryd ei weld yn cael ei arddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol.”

Dywedodd aelod o staff Nicola Jones: “Roedd y sesiwn mor ymlaciol a diddorol ac mae’r syniad y tu ôl i’r darn celf terfynol gan ddefnyddio deunyddiau meddygol wedi’u hailgylchu yn syniad gwych ac mae’n rhywbeth arbennig i fod yn rhan ohono. Mae cael yr amser allan gyda’n gilydd fel tîm i wneud rhywbeth creadigol a hefyd i eistedd a chysylltu mor werthfawr.

Dywedodd aelod arall o staff Rebecca Palfrey: “Roedd y tîm yn gwerthfawrogi’r cyfle i gael rhywfaint o le ac amser i wneud gweithgaredd ymlaciol tra yn y gwaith. Roedd hi'n braf cael pawb yn sgwrsio gyda'i gilydd hefyd, gyda ffocws nad oedd yn seiliedig ar 'waith' am gwpl o oriau. Dw i'n meddwl bod pawb wedi mynd i ffwrdd yn llawer mwy hamddenol nag y daethant i mewn!

Celfyddydau ac Iechyd yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio’r holl waith sy’n defnyddio creadigrwydd, y celfyddydau a diwylliant i gefnogi iechyd a lles pobl. Mae hyn yn rhan bwysig o'r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau iechyd a lles.

I gael rhagor o wybodaeth am gelfyddydau ac iechyd ym Mhrifysgol Iechyd Hywel Dda a sut y gallwch gymryd rhan, ewch i: …https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/celfyddydau-ac-iechyd/

DIWEDD