Neidio i'r prif gynnwy

Celfyddydau ac iechyd

Rhoi creadigrwydd wrth galon iechyd a lles.

Nod ein gwasanaeth celfyddydau ac iechyd newydd yw integreiddio’r celfyddydau i waith y bwrdd iechyd. Mae hyn yn rhan bwysig o sut rydym yn darparu gwasanaethau iechyd a lles.

Fe’i defnyddir i gyfeirio at yr holl waith gyda chreadigedd, y celfyddydau a diwylliant sy’n gwella iechyd a lles pobl ac yn hybu iachâd ac adferiad.

Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddatblygu gan ein tîm celfyddydau ac iechyd sydd wedi'u lleoli o fewn tîm profiad y claf. Mae’r tîm yn gweithio ar draws y bwrdd iechyd i annog, hyrwyddo a datblygu darpariaeth y celfyddydau ac iechyd ar draws y tair sir ar gyfer cleifion, cymunedau a staff.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: