Gyda diwedd y flwyddyn yn prysur agosáu, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Dda yn annog y cyhoedd i helpu i ddiogelu ein hadnoddau gwerthfawr GIG drwy gadw draw o adrannau damweiniau ac achosion brys prysur oni bai bod gennych chi argyfwng difrifol sy’n bygwth bywyd.
Er mwyn sicrhau y gallwn drin cleifion yn briodol, ac er mwyn osgoi ambiwlansys yn ciwio y tu allan i’n Unedau Damweiniau ac Achosion Brys neu’n cael eu dargyfeirio i ysbytai eraill, mae’r bwrdd iechyd yn annog pobl i ddewis eu gwasanaethau gofal iechyd yn ofalus iawn, fel nad ydym ond yn gweld achosion brys mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau amgen yma Brys ac allan o oriau - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)
Ynghyd â’n partneriaid mewn awdurdodau lleol, y trydydd sector ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, rydym yn canolbwyntio ar reoli’r capasiti sydd gennym yn ein hysbytai acíwt a’n hadrannau achosion brys prysur, tra hefyd yn lleihau faint o amser y mae angen i gleifion ei dreulio mewn gwely ysbyty, drwy ddarparu cymaint o ofal nad yw’n ofal brys a gofal dilynol y tu allan i amgylchedd yr ysbyty ag y gallwn.
Os oes gennych ffrind, aelod o'r teulu neu rywun annwyl sy'n ddigon iach yn feddygol i gael eu rhyddhau o'r ysbyty, helpwch ni drwy ddod i'w casglu'n brydlon. Bydd hyn yn ein galluogi i ryddhau gwelyau yn gyflymach ar gyfer cleifion sy'n ddifrifol wael a chadw llif y cleifion yn gyson trwy ein hysbytai. Mae’n bwysig hefyd nad yw pobl yn dewis aros yn yr ysbyty os ydynt yn aros i gael eu rhyddhau i’w cartref gofal dewisol; mae ysbyty ar gyfer pobl ddifrifol wael ac mae rhyddhau diogel a phrydlon i'r lle mwyaf priodol yn hanfodol a bydd yn sicrhau'r canlyniad gorau i'r person hwnnw a'i deulu. I gael gwybod mwy am brofiad claf mewnol cliciwch yma Gwybodaeth i gleifion mewnol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)
Dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau yn Hywel Dda: “Hoffwn yn gyntaf fynegi fy niolch a’m gwerthfawrogiad o’r galon i’n gweithlu clinigol am eich ymdrech diflino a’ch penderfyniad i ddarparu gofal o’r ansawdd gorau posibl i’n cleifion a’n cymunedau mewn amgylchiadau anodd. Rydych chi’n ymgorfforiad o bopeth sy’n dda am y GIG a’r hyn y mae’r gwasanaeth iechyd yn ei gynrychioli, a dylech chi i gyd fod yn falch iawn – yn sicr rydw i.
“Mae’r heriau o gael mynediad at ofal a thriniaeth, yn enwedig yn y cyfnod ôl-Covid, wedi’u dogfennu’n dda yn genedlaethol ac yn anffodus nid yw Hywel Dda yn imiwn i’r rhain. Y ffordd yr ydym yn ceisio rheoli’r heriau a wynebwn yw drwy fabwysiadu dull system gyfan, sy’n dwyn ynghyd ein hysbytai acíwt, gofal sylfaenol a gwasanaethau cymunedol, y gwasanaeth ambiwlans, awdurdodau lleol a’r trydydd sector. Mae angen i bawb chwarae eu rhan a helpu – ac mae ein cyhoedd a’n cleifion yn gwbl allweddol i hyn.”
Os ydych chi'n sâl ac yn ansicr beth i'w wneud, gallwch ymweld â'r gwiriwr symptomau i wirio eich symptomau yn erbyn nifer o anhwylderau cyffredin ac, os gofynnir i chi, ffoniwch GIG 111.
Mynychwch Adran Achosion Brys dim ond os oes gennych salwch sy’n bygwth bywyd neu anaf difrifol, megis:
• Anawsterau anadlu difrifol
• Poen difrifol neu waedu
• Poen yn y frest neu amheuaeth o strôc
• Anafiadau trawma difrifol (ee o ddamwain car)
Os oes gennych anaf llai difrifol, ewch i un o'n Hunedau Mân Anafiadau. Gallant drin oedolion a phlant dros 12 mis oed, gydag anafiadau megis:
• Mân glwyfau
• Mân losgiadau neu sgaldiadau
• Brathiadau pryfed
• Mân anafiadau i'r breichiau, y pen neu'r wyneb
• Darnau estron yn y trwyn neu'r glust
Mae gennym ni wasanaethau mân anafiadau neu wasanaethau cerdded i mewn yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi, ac Ysbyty Dinbych-y-pysgod, yn ogystal ag yn ein prif ysbytai acíwt. Am oriau agor, gwiriwch ein gwefan.
Gall llawer o fferyllfeydd cymunedol hefyd ddarparu gwasanaethau cerdded i mewn, anhwylderau cyffredin neu frysbennu a thrin heb apwyntiad. Gallwch ddarganfod mwy yma:
Fferyllfa - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)
Mae eich cefnogaeth nid yn unig yn helpu eich anwylyd, ond mae'n gefnogaeth enfawr i'r GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol hefyd.
Helpwch ni i wneud ein gwasanaeth yn fwy diogel trwy rannu'r wybodaeth hon gyda ffrindiau a theulu.
Diolch am eich cefnogaeth barhaus fel bob amser.