Neidio i'r prif gynnwy

Gofal iechyd brys tra ar wyliau

Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled canolbarth a gorllewin Cymru wedi cynhyrchu arweiniad i ymwelwyr â'r rhanbarth i'w cynghori ar sut i gael mynediad at wasanaethau iechyd brys tra ar wyliau.

Gyda’r disgwyl i filoedd o ymwelwyr ddod i'r ardal dros y misoedd nesaf, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn parhau i weithio gyda chontractwyr gofal sylfaenol i sicrhau bod gofal iechyd hanfodol a brys ar gael i breswylwyr ac ymwelwyr. Mae ymgyrch sy'n hysbysu'r rhai sy'n ymweld â Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cynnwys taflenni mewn pecynnau llety a phosteri i'w harddangos mewn llety i ymwelwyr.

Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus BIP Hywel Dda: “Rydym yn ddiolchgar am gydweithrediad ymwelwyr â’r ardal, ac yn gofyn i bobl ymgyfarwyddo â’r wybodaeth ar sut i gael gafael ar ofal brys tra ar wyliau a beth i’w wneud os oes angen prawf COVID-19 arnynt.

“Gall pawb gymryd camau syml i aros yn iach trwy olchi dwylo yn rheolaidd, defnyddio dŵr poeth a sebon neu lanweithydd dwylo, gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen a chadw pellter cymdeithasol da.”

“Gyda’n gilydd, gallwn ddiogelu Hywel Dda.”

Ychwanegodd Dr Sion James, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Nawr bod y sector twristiaeth yn croesawu pobl yn ôl i’n rhanbarth hardd, mae’n bwysig bod ymwelwyr yn gwybod sut i gael gafael ar ofal iechyd brys pe baent yn mynd yn sâl tra ar wyliau.

“Hoffem ddiolch i’n contractwyr mewn gofal sylfaenol sy’n parhau i weithio’n galed i gynnig gwasanaethau hanfodol a brys i’w cleifion ac i hymwelwyr yn ystod yr amser anodd hwn.”

Mae gwybodaeth i'r rhai sy'n ymweld â'r tair sir yn cynnwys:

Symptomau COVID-19:

I gael cyngor cysylltiedig â COVID-19, ffoniwch 111.

Os ydych chi'n datblygu unrhyw un o’r tri symptom (peswch parhaus newydd, tymheredd uchel, neu golled neu newid mewn arogl neu flas) neu symptomau ehangach sy’n debyg i ffliw (yn cynnwys poenau, cur pen neu flinder parhaus, trwyn sy’n rhedeg neu’n llawn, dolur gwddf, diffyg anadl) rhaid i chi, ac unrhyw un sy'n teithio gyda chi, ddychwelyd adref cyn gynted â phosib os yn ddigon da i wneud hynny, ac bwcio https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawfcoronafeirws neu ffonio 119. Rhaid i chi beidio â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Os ydych chi'n rhy sâl i ddychwelyd adref ar unwaith, a bod angen prawf yn lleol, dylech fwcio prawf trwy’r ddolen uchod (bydd angen cod post eich llety gwyliau).

Pan yn bwcio eich prawf, byddwch yn cael eich holi am eich symptomau hefyd. Os oes gennych symptomau tebyg i ffliw yn hytrach na’r tri symptom mawr, dewiswch ‘Dim un o’r symptomau hyn’ ac yna dewiswch un o’r opsiynau canlynol i’ch galluogi i gwblhau’r broses fwcio:

  • Mae fy nghyngor lleol neu dîm diogelu iechyd wedi gofyn i mi gael prawf, ern ad oes gen i symptomau neu
  • Rydych yn rhan o brosiect peilot y llywodraeth neu
  • Mae Meddyg Teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol wedi gofyn i mi gael prawf.

Gofal brys - Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng neu ewch i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys agosaf. Gyda mân anaf, gallwch fynd i uned mân anafiadau.

Gofal Pediatreg - Os bydd eich plentyn yn mynd yn sâl, ffoniwch 999 os yw'n argyfwng. Os nad yw'n fater brys ond mae angen cefnogaeth arnoch chi, cysylltwch â 111 a fydd yn gwybod ble mae'ch gwasanaethau lleol. Sylwch nad oes gan bob un o'n hysbytai ystod lawn o wasanaethau pediatreg.

Gofal Meddyg Teulu: Gofal Brys - Dylech ffonio meddygfa leol sy'n cwmpasu'r cyfeiriad lle'r ydych chi'n aros. Peidiwch â mynd i’r feddygfa; mae gan feddygfeydd fesurau llym ar waith. Os yw'r feddygfa o'r farn bod angen triniaeth wyneb yn wyneb arnoch chi, bydd yn dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud. Nid yw meddygfeydd yn gallu cynnig gofal nad yw'n hanfodol. Gofal nad yw’n frys - Cysylltwch â'ch meddygfa eich hun i gael cyngor dros y ffôn neu ar-lein.

Gofal Fferyllol - Os oes angen meddyginiaeth rheolaidd arnoch, dylech gysylltu â'r feddygfa yr ydych wedi cofrestru ynddi i gael presgripsiwn. Gellir darparu cyflenwad brys o feddyginiaeth, heb bresgripsiwn, os bodlonir meini prawf penodol. Ffoniwch ymlaen llaw cyn mynd i'r fferyllfa. Efallai y gofynnir i chi aros y tu allan.

Gofal deintyddol a llygaid - Os oes gennych broblem ddeintyddol brys na all aros nes i chi gyrraedd adref, ffoniwch 111 i gael mynediad at apwyntiad brys. Sylwch, os oes gennych waedu nad yw wedi stopio yn dilyn echdynnu, chwyddo difrifol yn yr wyneb neu chwyddo sy'n ei gwneud hi'n anodd anadlu, mae angen i chi fynd i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Am gyngor gofal llygaid brys, cysylltwch â’r optometrydd agosaf.

I weld ystod lawn o Gwestiynau Cyffredin, ac i gael manylion cyswllt gwasanaethau gofal iechyd lleol, ewch i: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwybodaeth-i-twristiaid-ac-ymwelwyr/

Am gyngor cyffredinol ffoniwch 111.

DIWEDD