Neidio i'r prif gynnwy

GIG75: Ein Pobl

4 Gorffennaf 2023

I gydnabod 75ain blwyddyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dathlu straeon personol eu gweithlu.

Drwy gydol wythnos gyntaf mis Gorffennaf bydd y bwrdd iechyd yn rhannu proffiliau o aelodau staff sy'n gwneud i'ch gwasanaethau gofal iechyd lleol weithio. Maent yn dod o bob proffesiwn a chefndir, ond mae ganddynt un peth yn gyffredin, sef ymroddiad i ddarparu’r gwasanaethau gorau a allant i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda: “Mae llawer wedi newid mewn gwyddoniaeth a gofal iechyd ers 1948, ond ysbryd ac ymroddiad ein pobl i’w cymunedau yw ein llawenydd cyson a’n ffynhonnell o falchder aruthrol.

“Lle bynnag y dechreuoch chi eich gyrfa o fewn y GIG, pan fyddwch chi'n ymuno â thîm Hywel Dda rydych chi'n dod yn rhan o'n teulu.

"Fel pob teulu mae gennym lawer i'w ddathlu, ond hefyd heriau i'w hwynebu. Mae ein hastudiaethau achos GIG75 yn nodweddu llawer o'r hyn yr ydym i gyd wedi dod i'w gysylltu fel rhan fwyaf y GIG: pobl wych, yn gwneud eu gwaith gorau dros y GIG a’r cymunedau maen nhw'n eu caru."

Mae gennym straeon gan staff a gafodd eu hysbrydoli i ymuno â #TîmHywelDda gan driniaeth a gawsant, staff a ddechreuodd gyda ni fel gwirfoddolwyr, staff sydd wedi gweithio mewn llawer o rolau, a rhai dethol sydd wedi gweithio yn y GIG ers blynyddoedd lawer.

Ni allwn aros i rannu rhai straeon anhygoel am ein staff, sy'n wirioneddol gynrychioli rhai o'r bobl wych sy'n ein gwneud yr hyn ydym heddiw. Cadwch lygad am y straeon a rhannwch eich stori GIG gan ddefnyddio #GIG75 #TîmHywelDda.