2 Awst 2022
[Datganiadau i'r wasg Prifysgol Abertawe]
Mae papur newydd gan Brifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â ConcePTION (agor mewn dolen newydd), prosiect a gefnogir gan IMI (Innovative Medicines Initiative), wedi galw am gasglu data am fwydo ar y fron yn rheolaidd mewn cronfeydd data gofal iechyd. Y nod yw meithrin dealltwriaeth well o effeithiau tymor hir meddyginiaethau a gymerir gan fenywod yn ystod beichiogrwydd ac wrth fwydo ar y fron.
Yn y papur (agor mewn dolen newydd), a gyhoeddwyd yn International Breastfeeding Journal, mae ymchwilwyr yn dadlau bod prinder data am fwydo ar y fron yn wendid sylweddol sy'n arwain at ddiffyg dealltwriaeth o effaith cymryd meddyginiaethau yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl hynny ar gyfraddau bwydo ar y fron a datblygiad babanod yn y tymor hir.
Mae ymchwilwyr yn argymell y dylai bellach fod yn flaenoriaeth cynnwys data am fwydo ar y fron a meddyginiaethau a ddefnyddir gan fenywod yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl hynny ac wrth roi genedigaeth mewn cronfeydd data poblogaeth, ochr yn ochr â data am niwroddatblygiad plant wedyn, fel y gellir ymchwilio'n ystyrlon i fuddion a niweidiau meddyginiaethau.
Mae'r awduron yn nodi y dylai cronfeydd data poblogaeth gysylltu data am dri ffactor: meddyginiaethau a gymerir, bwydo ar y fron a datblygiad babanod. Mae'n nodi bod ychydig iawn o gronfeydd data poblogaeth ledled Ewrop yn dal gwybodaeth am y tri pheth gyda'i gilydd, ac nid oes llawer o gysondeb o ran canlyniadau, diffiniadau, dulliau ac amseriad asesiadau.
Meddai'r Athro Sue Jordan (agor mewn dolen newydd) o Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd y Brifysgol, sef arweinydd yr ymchwil: “Ar hyn o bryd, nid yw bwydo ar y fron yn cael ei gofnodi mewn modd cyson yn y rhan fwyaf o gronfeydd data poblogaeth ac mae hyn yn amharu ar y broses o ddadansoddi a deall y perthnasoedd cymhleth rhwng meddyginiaethau, beichiogrwydd, bwydo ar y fron ac iechyd babanod a mamau.”
Meddai'r Athro Christine Damase-Michel, ffarmacolegydd yng Nghyfadran Meddygaeth Ysbyty Athrofaol Toulouse (INSERM CERPOP): “Mae angen cael data cysylltiol o safon uchel ar frys am feddyginiaethau, canlyniadau tymor hir yn ystod plentyndod a ffactorau risg addasadwy, gan gynnwys bwydo ar y fron, fel y gellir cynnal dadansoddiadau cadarn o fuddion a niweidiau meddyginiaethau, a fydd yn y pen draw yn galluogi menywod i wneud penderfyniadau gwybodus ar eu triniaeth feddygol eu hunain, a bwydo ar y fron.”
Cafodd prosiect ConcePTION (agor mewn dolen newydd) ei sefydlu gan ein bod yn credu bod gennym ymrwymiad cymdeithasol pwysig i leihau ansicrwydd mewn modd trylwyr a chyflym am effeithiau meddyginiaethau a ddefnyddir yn ystod beichiogrwydd ac wrth fwydo ar y fron er mwyn helpu menywod i wneud penderfyniadau gwybodus am feddyginiaethau a ddefnyddir cyn mynd yn feichiog, yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl hynny.