Neidio i'r prif gynnwy

Galw Digwyddiad Mawr Mewnol am RAAC yn Ysbyty Llwynhelyg

15 Awst 2023

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda heddiw, dydd Mawrth, 15 Awst 2023 wedi datgan digwyddiad mawr mewnol yn Ysbyty Llwynhelyg wrth iddo geisio canfod maint ac effaith y Concrit Awyrog Awtoclaf Cyfnerth (RAAC) a geir yn adeilad yr ysbyty.

Mae’r bwrdd iechyd wedi penderfynu datgan digwyddiad mawr mewnol mewn perthynas â RAAC yn Ysbyty Llwynhelyg er mwyn ein galluogi i weithredu ein strwythurau gorchymyn a rheoli mewnol (Aur, Arian ac Efydd). Drwy alw digwyddiad mawr mewnol, mae’r bwrdd iechyd hefyd yn gallu blaenoriaethu gwaith ein timau i ymdrin â’r mater a manteisio ar gymorth gan asiantaethau partner sy’n aelodau o Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed Powys.

Mae RAAC yn ddeunydd cyffredin a ddefnyddiwyd wrth godi adeiladau rhwng y 1960au a'r 1990au. Mae ei bresenoldeb wedi'i gadarnhau yn Ysbyty Llwynhelyg ac mewn rhan gyfyngedig o Ysbyty Bronglais. Mae hefyd wedi’i nodi mewn amrywiaeth o eiddo’r GIG ledled y DU, gan gynnwys sawl eiddo yng Nghymru.

Rydym yn gweithio gyda chontractwr allanol a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru i nodi maint y broblem – mae hyn yn golygu arolygu pob un o’r planciau RAAC ar y safle. Lle nodir materion strwythurol, mae graddau'r gwaith adfer hefyd yn cael ei asesu.

Rhoddwyd cynlluniau ar waith ym mis Mai 2023, ar ddechrau’r broses arolwg, i reoli’r effaith ar weithrediad gwasanaethau dydd i ddydd yn yr ysbyty a blaenoriaethu argaeledd gwelyau ysbyty. Fodd bynnag, wrth i'r arolwg fynd rhagddo, mae maint y materion a nodwyd yn rhoi pwysau ychwanegol ar argaeledd gofod clinigol ac mae'n debygol o gael effaith ganlyniadol ar ein gwasanaethau. Hyd yma, bu angen cau tair ward yn Llwynhelyg oherwydd cyflwr y planciau RAAC a ddarganfuwyd, gyda’r sefyllfa’n cael ei rheoli a chleifion yn cael eu hadleoli i leoliadau eraill y bwrdd iechyd yn Sir Benfro. Ein bwriad yw rheoli cymaint â phosib o adleoli cleifion o fewn Sir Benfro.

Er yr ymdrechion gorau i gynnal gwaith arolygu cyn gynted â phosibl, mae canfyddiadau'r gwaith arolwg mewn rhai achosion yn ei gwneud yn ofynnol i symud cleifion o wardiau i leoliadau eraill ac addasu gwasanaethau i adlewyrchu argaeledd y safle. Mae hyn yn debygol o gael effaith ar wasanaethau eraill y bwrdd iechyd mewn safleoedd eraill wrth inni symud cleifion a gwasanaethau. Mae mesurau lliniaru lleol hefyd yn cael eu rhoi ar waith, gan gynnwys propiau strwythurol a chau ardaloedd yr effeithir arnynt dros dro.

Oni bai y nodir yn wahanol, dylai cleifion barhau i fynychu eu hapwyntiadau a chyrchu gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg fel arfer. Fodd bynnag, gall hyn newid ar fyr rybudd. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn cyfathrebu â chleifion yn uniongyrchol os bydd newid yn cael ei wneud i'r gwasanaeth neu'r clinig y maent i fod i'w fynychu. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y bwrdd iechyd yn biphdd.gig.cymru/newyddion/raac/ (agored mewn dolen newydd)

Gwyddom y gall y gwaith arolygu a’r camau adferol achosi tarfu sylweddol a phryder ymhlith aelodau ein cymunedau. Dymuna’r bwrdd iechyd ddiolch i staff, cleifion ac ymwelwyr yr ysbyty am eu hamynedd a’u dealltwriaeth dros y misoedd nesaf wrth i ni gynnal y gwaith hanfodol hwn.