15 Awst 2023
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda heddiw, dydd Mawrth, 15 Awst 2023 wedi datgan digwyddiad mawr mewnol yn Ysbyty Llwynhelyg wrth iddo geisio canfod maint ac effaith y Concrit Awyrog Awtoclaf Cyfnerth (RAAC) a geir yn adeilad yr ysbyty.
Mae’r bwrdd iechyd wedi penderfynu datgan digwyddiad mawr mewnol mewn perthynas â RAAC yn Ysbyty Llwynhelyg er mwyn ein galluogi i weithredu ein strwythurau gorchymyn a rheoli mewnol (Aur, Arian ac Efydd). Drwy alw digwyddiad mawr mewnol, mae’r bwrdd iechyd hefyd yn gallu blaenoriaethu gwaith ein timau i ymdrin â’r mater a manteisio ar gymorth gan asiantaethau partner sy’n aelodau o Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed Powys.
Mae RAAC yn ddeunydd cyffredin a ddefnyddiwyd wrth godi adeiladau rhwng y 1960au a'r 1990au. Mae ei bresenoldeb wedi'i gadarnhau yn Ysbyty Llwynhelyg ac mewn rhan gyfyngedig o Ysbyty Bronglais. Mae hefyd wedi’i nodi mewn amrywiaeth o eiddo’r GIG ledled y DU, gan gynnwys sawl eiddo yng Nghymru.
Rydym yn gweithio gyda chontractwr allanol a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru i nodi maint y broblem – mae hyn yn golygu arolygu pob un o’r planciau RAAC ar y safle. Lle nodir materion strwythurol, mae graddau'r gwaith adfer hefyd yn cael ei asesu.
Rhoddwyd cynlluniau ar waith ym mis Mai 2023, ar ddechrau’r broses arolwg, i reoli’r effaith ar weithrediad gwasanaethau dydd i ddydd yn yr ysbyty a blaenoriaethu argaeledd gwelyau ysbyty. Fodd bynnag, wrth i'r arolwg fynd rhagddo, mae maint y materion a nodwyd yn rhoi pwysau ychwanegol ar argaeledd gofod clinigol ac mae'n debygol o gael effaith ganlyniadol ar ein gwasanaethau. Hyd yma, bu angen cau tair ward yn Llwynhelyg oherwydd cyflwr y planciau RAAC a ddarganfuwyd, gyda’r sefyllfa’n cael ei rheoli a chleifion yn cael eu hadleoli i leoliadau eraill y bwrdd iechyd yn Sir Benfro. Ein bwriad yw rheoli cymaint â phosib o adleoli cleifion o fewn Sir Benfro.
Er yr ymdrechion gorau i gynnal gwaith arolygu cyn gynted â phosibl, mae canfyddiadau'r gwaith arolwg mewn rhai achosion yn ei gwneud yn ofynnol i symud cleifion o wardiau i leoliadau eraill ac addasu gwasanaethau i adlewyrchu argaeledd y safle. Mae hyn yn debygol o gael effaith ar wasanaethau eraill y bwrdd iechyd mewn safleoedd eraill wrth inni symud cleifion a gwasanaethau. Mae mesurau lliniaru lleol hefyd yn cael eu rhoi ar waith, gan gynnwys propiau strwythurol a chau ardaloedd yr effeithir arnynt dros dro.
Oni bai y nodir yn wahanol, dylai cleifion barhau i fynychu eu hapwyntiadau a chyrchu gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg fel arfer. Fodd bynnag, gall hyn newid ar fyr rybudd. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn cyfathrebu â chleifion yn uniongyrchol os bydd newid yn cael ei wneud i'r gwasanaeth neu'r clinig y maent i fod i'w fynychu. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y bwrdd iechyd yn biphdd.gig.cymru/newyddion/raac/ (agored mewn dolen newydd)
Gwyddom y gall y gwaith arolygu a’r camau adferol achosi tarfu sylweddol a phryder ymhlith aelodau ein cymunedau. Dymuna’r bwrdd iechyd ddiolch i staff, cleifion ac ymwelwyr yr ysbyty am eu hamynedd a’u dealltwriaeth dros y misoedd nesaf wrth i ni gynnal y gwaith hanfodol hwn.