Neidio i'r prif gynnwy

Ewch i'ch fferyllfa am help gydag anhwylderau cyffredin y Pasg hwn

12 Ebrill 2022

Helpwch ni i'ch helpu chi'r Pasg hwn - defnyddiwch eich fferyllydd lleol pan ddaw'n amser ceisio triniaeth ar gyfer anhwylderau cyffredin yn hytrach na chysylltu â'ch meddyg teulu neu fynd i'r Uned Mân Anafiadau neu’r Uned Damweiniau ac Achosion Brys.

Gall eich fferyllydd cymunedol ddarparu cyngor cyfrinachol rhad ac am ddim gan y GIG a thriniaeth ar gyfer ystod eang o anhwylderau cyffredin gan gynnwys llyngyr, ferwca, rhwymedd, peils, clefyd y gwair, llindag, brech yr ieir a cholig.

Gall nifer fach o fferyllfeydd cymunedol ar draws ardal Hywel Dda hefyd gynnig gwasanaeth Brysbennu a Thrin. Gall y gwasanaeth hwn eich helpu os ydych wedi cael anaf bach. Y mathau o anafiadau y gellir eu trin o dan y gwasanaeth hwn yw: mân sgraffiniadau, briwiau a chlwyfau arwynebol, brathiadau a phigiadau gan bryfed, tynnu eitemau o'r croen fel sblinteri a mân losgiadau gan gynnwys llosg haul.

Bydd y Fferyllydd yn asesu eich anaf neu symptom ac yn penderfynu a allant eich trin yno neu a oes angen i chi geisio triniaeth gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall. Os yw'r anaf yn rhy ddifrifol i gael ei drin yn y fferyllfa, byddwch yn cael cyngor ar ble i fynd.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; “Yn draddodiadol, mae fferyllwyr cymunedol bob amser wedi cynghori cleifion ar ystod eang o anhwylderau cyffredin. Gwnewch eich fferyllfa leol yn fan galw cyntaf. Gallant argymell triniaethau priodol, neu os oes angen, gallant gyfeirio at weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall.”

Mae nifer o fferyllfeydd ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro bellach hefyd yn cynnig gwasanaeth Haint y Llwybr Troethol (UTI) ar gyfer menywod nad ydynt yn feichiog rhwng 16 a 64 oed.

Y bwrdd iechyd yw’r cyntaf yng Nghymru i gynnig y gwasanaeth, sydd wedi’i gymeradwyo fel prosiect Enghreifftiol Bevan, ac os bydd yn llwyddiannus, gallai arwain at gyflwyno’r gwasanaeth ledled Cymru.

Mae symptomau UTI yn cynnwys poen llosgi wrth basio dŵr, yr angen i basio dŵr yn amlach (yn enwedig gyda'r nos) ac wrin cymylog. Gall UTI, os na chaiff ei drin, arwain at haint sy'n gwaethygu ac, mewn rhai achosion, mynd i'r ysbyty. Gall cleifion siarad yn gyfrinachol â fferyllydd sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig mewn ystafell ymgynghori breifat.

Dywedodd y fferyllydd Simon Noott o Fferyllfa Noott Hwlffordd; “Mae’r gwasanaeth UTI yn un o’r gwasanaethau newydd mwyaf gwerthfawr sydd wedi’i gomisiynu o fewn fferylliaeth gymunedol. Mae’r gwasanaeth yn enghraifft o sut mae fferyllfeydd yn darparu gwerth gwych i’r gymuned ac yn cynnig mynediad hawdd at driniaeth broffesiynol ar gyfer yr hyn sy’n anhwylder cyffredin.”

I gael manylion cyswllt yr holl fferyllfeydd ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn ogystal ag oriau agor a manylion pa wasanaethau y maent yn eu cynnig, ewch i: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/