Neidio i'r prif gynnwy

Dysgu trwy chwarae: byrddau cyfathrebu newydd ar feysydd chwarae Ceredigion

Bellach gall plant yng Ngheredigion elwa ar fyrddau cyfathrebu dwyieithog newydd, sydd wedi'u cynllunio i greu awyrgylch cyfeillgar mewn ardaloedd chwarae i helpu plant i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu.

Mae'r byrddau cyfathrebu, sef y prosiect cyntaf o'i fath yng Nghymru, yn cynnwys detholiad o'r geiriau a nodwyd amlaf a ddefnyddir mewn amgylcheddau chwarae, sydd wedi'u paru â symbolau cysylltiedig. Mae pymtheg o fyrddau gwrth-dywydd wedi'u gosod ar uchder cyfeillgar i blant o amgylch y parciau yn y sir.

Sicrhaodd therapyddion iaith a lleferydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion, gyllid o Gronfa Datblygiad Plant Llywodraeth Cymru i greu'r byrddau.

Dywedodd Mererid Davies, Therapydd Iaith a Lleferydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae'r byrddau cyfathrebu yn darparu modd gweledol i blant fynegi eu hunain, gan leihau'r teimlad o unigedd a rhwystredigaeth. Bydd y byrddau hefyd yn helpu plant i ddysgu iaith gan fod oedolion yn gallu modelu geiriau gan ddefnyddio atgyfnerthu gweledol. Gan ei fod hefyd yn ddwyieithog mae'n gyfle da i helpu teuluoedd nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg i ddatblygu sgiliau Cymraeg sylfaenol.”

Dywedodd Maria Battle, y Cadeirydd: “Mae gan bob plentyn yr hawl i chwarae ac i gyrraedd ei lawn botensial. Bydd y byrddau cyfathrebu hyn yn annog plant i fwynhau chwarae hyd yn oed yn fwy a meithrin eu datblygiad.

“Mae’n fenter wych gan y tîm sy’n dylunio a gosod y byrddau cyfathrebu mewn sawl un o feysydd chwarae’r sir. Mae hon yn ffordd gynhwysol i helpu pob plentyn i fynegi ei anghenion, teimlo'n ddiogel, a'i gefnogi i wneud a mynegi eu penderfyniadau eu hunain. Mae'r prosiect yn brawf o'n hymrwymiad i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru, sy'n ceisio sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn meddwl am effaith tymor hir eu penderfyniadau ac yn gweithio'n well gyda chymunedau i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau, gan wneud newid cadarnhaol, parhaol i cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.”

Y Cynghorydd Catrin Miles yw aelod y cyngor ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cefnogaeth ac Ymyrraeth. Meddai: “Chwarae yw un o'r ffyrdd y mae plant yn dysgu amdanynt eu hunain, y bobl o'u cwmpas, eu hamgylchedd a'r gymuned y maent yn byw ynddi. Gall chwarae gefnogi twf corfforol, emosiynol ac ysbrydol plant, datblygiad deallusol ac addysgol a sgiliau cymdeithasol ac ymddygiadol. Bydd plant yng Ngheredigion yn elwa o'r byrddau cyfathrebu dwyieithog newydd hyn, a ddyluniwyd i greu awyrgylch cyfeillgar a chynhwysol mewn ardaloedd chwarae a fydd yn helpu i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, sy'n arbennig o bwysig wrth iddynt ddod allan o gyfnod mor anodd a heriol yn eu bywydau ifanc.”