17 Awst 2021
Mae Ysbyty Bronglais yn dathlu ar ôl cael ei enwi fel Darparwr Data Ansawdd y Gofrestrfa Genedlaethol y Cymalau (NJR) ar ôl cwblhau rhaglen genedlaethol o archwiliadau data lleol yn llwyddiannus.
Derbyniodd tîm orthopedig yr ysbyty’r wobr am lawdriniaeth ddewisol. Mae’r NJR yn arolygu perfformiad llawdriniaeth gosod cymalau ar y glun, pen-glin, ffêr, penelin ac ysgwydd i wella canlyniadau clinigol er budd claf, clinigwyr a diwydiant. Mae’r gofrestrfa’n casglu data orthopedig o ansawdd uchel er mwyn darparu tystiolaeth i gefnogi diogelwch claf, safonau ansawdd gofal, a chost-effeithiolrwydd mewn llawfeddygaeth gosod cymalau newydd.
Cyflwynwyd cynllun tystysgrif ‘Darparwr Data Ansawdd NJR’ i gynnig glasbrint i ysbytai am gyrraedd safonau ansawdd uchel yn ymwneud a diogelwch claf a gwobrwyo’r rhai sydd wedi cyrraedd targedau cofrestrfa yn y maes hwn. Un o’r targedau y mae’n ofynnol i ysbytai eu cwblhau yw cydymffurfio ag archwiliad cenedlaethol gorfodol yr NJR gyda’r nod o asesu cyflawnrwydd ac ansawdd data yn y gofrestrfa. Mae Archwiliad Ansawdd Data NJR yn ymchwilio i’r nifer cywir o weithdrefnau gosod cymalau newydd a gyflwynwyd i’r gofrestrfa o’i gymharu â’r nifer a gynhaliwyd ac a gofnodwyd yn System Gweinyddu Cleifion yr ysbyty lleol. Mae’r archwiliad yn sicrhau bod yr NJR yn casglu ac yn adrodd ar y data mwyaf cyflawn, cywir sy’n bosibl ar draws pob Ysbyty sy’n perfformio llawdriniaeth gosod cymalau newydd, gan gynnwys Ysbyty Bronglais.
Dywedodd cyd-gyfarwyddwyr yr ysbyty Annette Snell a Said Awad: “Mae gwella diogelwch claf o’r pwys mwyaf ac yn rhywbeth y mae pob aelod o staff yn ei gymryd o ddifrif, felly rydym yn falch iawn ein bod yn derbyn dyfarniad ansawdd data gan yr NJR.
“Mae hyn oherwydd Gwaith tîm cydgysylltiedig gan yr adran orthopedig yn Ysbyty Bronglais, theatrau a thîm archwilio clinigol am gofnodi’r data ar gyfer ein holl gleifion arthroplasti cymalau. Rydym wedi gweithio’n galed i wella amseriad ein casglu data, ein caniatâd a’n cywirdeb. Mae’r llawfeddygon orthopedig yn cymryd ac yn cofnodi caniatâd ar gyfer yr NJR yn y cam cyn llawdriniaeth. Cesglir hwn gan weinyddwyr theatr a’i hanfon at y ffisiotherapydd arthroplasty, sy’n cyflwyno’r data ac yn gweithio gyda’r adran archwilio i’w wirio a’i gyfateb ar gyfer yr adroddiad diwedd blwyddyn.
“Rydym yn falch o gael tîm cefnogol agos, ac mae hyn yn brawf o’n llwyddiant.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Meddygol y Gofrestrfa Genedlaethol y Cymalau: “Llongyfarchiadau i gydweithwyr yn Ysbyty Bronglais. Mae’r Wobr Darparwr Data Ansawdd yn dangos y safonau uchel sy’n cael eu cyrraedd tuag at sicrhau cydymffurfiad a’r NJR ac yn aml mae’n adlewyrchiad o ymdrechion adrannol cryf i gyflawni statws o’r fath. Mae’r data’r Gofrestrfa bellach yn ffynhonnell dystiolaeth bwysig i reoleiddwyr, fel y Comisiwn Ansawdd Gofal, i lywio eu barnau am wasanaethau, yn ogystal â bod yn sbardun sylfaenol i lywio gwell ansawdd gofal i gleifion.”