Neidio i'r prif gynnwy

Beth sy'n digwydd?

Ym mis Medi 2023, dywedodd y partneriaid ym Mhartneriaeth Feddygol Cross Hands a’r Tymbl wrth y bwrdd iechyd y byddent yn dod â’u contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol i ben (contract sy’n eu galluogi i ddarparu gwasanaethau meddygol cyffredinol i gleifion cofrestredig), a hynny ar 31 Mawrth 2024.

Ymgysylltodd y bwrdd iechyd â chleifion a rhanddeiliaid lleol i ddysgu mwy am yr hyn yr hoffent ei weld yn digwydd nesaf. Roedd y rhan fwyaf o bobl eisiau cadw’r feddygfa ar agor, gyda meddygon teulu newydd o bosibl.

Yna cynhaliodd y bwrdd iechyd broses dendro agored i ddod o hyd i ddarparwr arall ar gyfer y gwasanaethau hyn.

Gwobrwywyd y contract i Bartneriaeth Aman Tawe gan y bwrdd iechyd a bydd yn ymgymryd â’r gwaith o redeg y feddygfa o 1 Ebrill 2024.