22 Gorffennaf 2025
Nid oes gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda unrhyw gynlluniau i gau Ysbyty Llanymddyfri a bydd yn dychwelyd i'r dref i glywed mwy am eu barn am rôl yr ysbyty cymunedol yn y dyfodol a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol.
Mynychodd mwy na 400 o bobl yn y gymuned ddigwyddiad ymgynghori â’r bwrdd iechyd yn ddiweddar ar newidiadau posibl i naw gwasanaeth clinigol penodol a ddarperir ar draws y tair sir, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Un o’r gwasanaethau clinigol yn yr ymgynghoriad yw radioleg, sy’n wynebu her ar draws ardal y bwrdd iechyd gyda chleifion yn aros yn rhy hir ac anawsterau staffio.
O dan yr opsiynau presennol yn yr ymgynghoriad, cynigir y gallai Pelydr-X, a ddarperir ar hyn o bryd un diwrnod yr wythnos yn Llanymddyfri, gael ei ddarparu yn lle hynny o Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, ac Ysbyty Tywysog Philip, yn Llanelli.
Mae’r gwasanaeth yn cael ei darparu rhwng 10am a 4pm gan aelod o staff sy'n ymweld o Ysbyty Tywysog Philip.
Mae hyn ar gyfer rhwng 12 a 15 o gleifion y dydd, er y gall fod mor uchel ag 20, o gymharu â thua 45 o gleifion y dydd ar brif safleoedd ysbytai.
Mae’r math o ddelweddu y gall y peiriant, a roddwyd yn garedig gan y gymuned sawl blwyddyn yn ôl, hefyd yn gyfyngedig oherwydd datblygiadau technolegol ac mae angen trosglwyddo rhai cleifion i Ysbyty Glangwili neu Ysbyty Tywysog Philip ar gyfer eu Pelydr-X. Pe bai'r gwasanaeth yn parhau yn Llanymddyfri, byddai angen newid y peiriant.
Eglurodd y Cyfarwyddwr Meddygol Mark Henwood: “Diolch i bawb a ddaeth i siarad â ni yn Llanymddyfri ar 17 Gorffennaf – roedd yn wych cwrdd â chymaint o bobl sy’n poeni’n fawr am Ysbyty Llanymddyfri a’n GIG. Mae’r opsiynau arfaethedig sydd wedi’u cynnwys yn y Cynllun Gwasanaethau Clinigol yn ceisio delio â bregusrwydd yn ein gwasanaethau radioleg yn arbennig, ond rydym yn ymgynghori â’n cymunedau i ddysgu mwy, i wrando ar effeithiau posibl a syniadau eraill neu i glywed ac ystyried opsiynau newydd hefyd.
“Nid oes unrhyw gynlluniau na phenderfyniadau ar y gweill ynghylch cau Ysbyty Llanymddyfri, a oedd yn bryder gan lawer o bobl yn y gymuned yn ein digwyddiad diweddar.
“Mae Ysbyty Llanymddyfri yn ganolbwynt i’n cymuned, ac rydym wedi clywed yr angerdd sydd gan y gymuned dros wasanaethau lleol yn glir iawn yn ein digwyddiad diweddar. Rydym yn hynod ddiolchgar i Gynghrair y Cyfeillion a’r gymuned am eu cefnogaeth barhaus i’r ysbyty a’n staff. Mae’r ysbyty’n dal ar agor ac yn darparu ystod o wasanaethau o’r ward a gofal lliniarol, diwedd oes, i’r ystod o wasanaethau a gynigir trwy glinigau, ac rydym yn ddiolchgar iawn i’n staff sy’n ymroddedig ac yn gweithio’n lleol.”
Mae clinigau sy’n cael eu rhedeg ar hyn o bryd o Ysbyty Llanymddyfri yn cynnwys:
Ychwanegodd Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredu’r Bwrdd Iechyd: “Er nad yw potensial ehangach yr ysbyty a’i ddyfodol yn rhan o’r ymgynghoriad presennol ar wasanaethau clinigol, byddem yn gwerthfawrogi trafodaethau parhaus gyda’n cymuned am yr ysbyty a gofal yn y gymuned, yn enwedig gan ein bod hefyd yn cynnal adolygiad o’n strategaeth Canolbarth a Gorllewin Iachach Cymru.”
Gall pobl rannu eu barn ar yr hyn sy'n bwysig i fyw bywyd iach trwy ymweld https://www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk/ein-strategaeth. Bydd y bwrdd iechyd hefyd yn dod yn ôl i Lanymddyfri, a chymunedau eraill, i drafod hyn gyda’r bobl leol yn yr hydref.
Yn y cyfamser, os hoffech rannu eich barn ar ddyfodol y naw gwasanaeth clinigol yn y bwrdd iechyd, gan gynnwys radioleg, gallwch wneud hyn drwy fynd i Ymgynghoriad cynlluniau gwasanaethau clinigol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Ddaneu ffonio 0300 303 8322 (opsiwn 5).
Yr wyth gwasanaeth arall yw gofal critigol, dermatoleg, llawfeddygaeth gyffredinol frys, endosgopi, offthalmoleg, orthopedeg ddewisol, strôc ac wroleg.
Yn yr holiadur mae opsiynau lluosog ar gael ar gyfer nodi ffafriaeth, gan gynnwys ‘dim dewis penodol’ neu ‘ddim yn gwybod’. Mae cwblhau'r adran hon yn ddewisol, a darperir blwch sylwadau ar gyfer safbwyntiau ychwanegol neu i awgrymu syniadau amgen.
Bydd y Bwrdd yn ystyried y cyfan y maent wedi'i glywed yn arwain at, ac yn ystod, yr ymgynghoriad hwn pan fyddant yn cyfarfod yn ddiweddarach yn y gaeaf. Mae hyn yn cynnwys asesiadau o’r effaith ar iechyd a chydraddoldeb, a fydd yn ystyried sut y gallai pobl gael eu heffeithio a beth sydd angen ei wneud i leihau effeithiau negyddol. Byddant hefyd yn ystyried unrhyw syniadau newydd ac ni fydd penderfyniadau'n cael eu seilio'n gyfan gwbl ar y dewisiadau a ddewiswyd yn yr holiadur.