Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad Ysbyty Bronglais - diweddariad

Arwydd Ysbyty Bronglais

Dydd Mercher, 8 Ionawr 2023

Yn dilyn y digwyddiad yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth fore Llun (Ionawr 8) pan fu car mewn gwrthdrawiad â wal, hoffem ddiolch i bawb – staff, cleifion a’r gwasanaethau brys – am eu cefnogaeth a’u cydweithrediad tra bod y sefyllfa yn cael ei rheoli.

Cafodd y car ei dynnu o leoliad y gwrthdrawiad fore Llun. Dangosodd arolwg nad oedd unrhyw ddifrod strwythurol i wal Ward Leri felly roedd staff yn gallu dechrau glanhau ac atgyweirio. Mae'r adeilad yn ddiogel ac mae gwaith i gwblhau'r gwaith atgyweirio yn parhau.

Cafodd y ddamwain effaith ar rai gwasanaethau yn Uned Ddydd Leri a hoffem ddiolch i gleifion am eu cefnogaeth a'u dealltwriaeth.

Dywedodd Matthew Willis, Rheolwr Cyffredinol yn Ysbyty Bronglais Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffwn ddiolch i’r holl staff a ymatebodd i’r digwyddiad cychwynnol ac sydd wedi bod yn rhan o’r glanhau dilynol, ynghyd â’n holl gydweithwyr yn y gwasanaethau brys a ddaeth i’n cynorthwyo.”