Neidio i'r prif gynnwy

Diffodd y straen y Diwrnod Dim Smygu hwn

8 Mawrth 2023

Mae smygwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio’r Diwrnod Dim Smygu hwn, sef dydd Mercher 8 Mawrth 2023, i ddiffodd y straen ar ôl i ymchwil ddangos y gall rhoi’r gorau iddi eich gwneud yn hapusach a bod cystal â chyffuriau gwrth-iselder o ran symptomau gorbryder.

Nod ymgyrch genedlaethol gan elusen ASH Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yw chwalu’r myth bod smygu’n ymdrin yn effeithiol â straen, ac mae'n annog smygwyr i fanteisio ar gymorth am ddim gan y GIG, sydd ar gael gan Dîm Smygu a Llesiant Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae arolwg diweddaraf YouGov ar gyfer Cymru yn dangos y byddai dros 50% o smygwyr, gan gynnwys y rhai â phroblemau iechyd meddwl, yn hoffi rhoi'r gorau iddi. Bydd miloedd o smygwyr ledled Cymru yn defnyddio Diwrnod Dim Smygu fel man cychwyn ar eu taith i roi’r gorau iddi.

Ysbrydolwyd thema Diwrnod Dim Smygu eleni gan faich ariannol cynyddol smygu a’r effaith y mae’r ddibyniaeth hon yn ei chael ar iechyd meddwl.

Dywedodd Suzanne Cass, Prif Swyddog Gweithredol ASH Cymru: “Nid yw smygu yn ddewis o ran ffordd o fyw, mae'n ddibyniaeth. Mae smygwyr yn ymwybodol dros ben o effeithau costau byw, mwy o straen ac iechyd meddwl gwael.

“Mae ein gwaith wedi dangos bod llawer yn troi at smygu i leddfu straen bywyd modern, heb sylweddoli y gallai smygu fod yn gwaethygu pethau.

“Mae llawer yn meddwl bod sigaréts yn ffordd dda o leddfu straen, ond mewn gwirionedd mae ymchwil yn dangos nad yw smygu yn ffordd effeithiol na diogel o ddelio â straen. Mae heddiw yn gyfle i fynd i’r afael â’r camsyniadau hyn, ac i gyfeirio at y cymorth gwych gan y GIG sydd ar gael yng Nghymru.”

Dywedodd Cath Einon o Dîm Smygu a Llesiant Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae dydd Mercher 8 Mawrth 2023 yn Ddiwrnod Dim Smygu, ac rydym yma i’ch helpu i roi’r gorau iddi ac i aros felly. Mae'n bwysig cofio bod rhoi'r gorau i smygu yn daith, ond gyda'r cymorth cywir, gallwch roi'r gorau i smygu a gwella eich iechyd a'ch llesiant cyffredinol.

“Mae'r manteision iechyd yn sgil rhoi'r gorau i smygu i'w gweld yn syth, oherwydd mewn cyn lleied ag wyth awr gall lefelau carbon monocsid smygwr haneru.

“24 awr ar ôl rhoi’r gorau iddi, bydd carbon monocsid wedi'i ddileu o’r corff a bydd yr ysgyfaint yn dechrau clirio mwcws a malurion smygu. Cyn pen blwyddyn yn unig ar ôl rhoi'r gorau iddi, bydd y risg o drawiad ar y galon wedi'i haneru o'i gymharu â'r risg i rywun sy'n dal i smygu.

“Felly gwnewch ymrwymiad i roi’r gorau i smygu ar Ddiwrnod Dim Smygu 2023, a chymerwch y cam cyntaf tuag at ddyfodol di-fwg.”

Os hoffech roi'r gorau i smygu ac rydych yn byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, cysylltwch â Thîm Smygu a Llesiant Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gael cyngor a chymorth am ddim trwy ffonio 0300 303 9652, anfon neges e-bost at smokers.clinic@wales.nhs.uk neu drwy lenwi ffurflen atgyfeirio ar-lein https://forms.office.com/r/XSXUggsk3b