Neidio i'r prif gynnwy

Damwain ffordd yn Ysbyty Bronglais

Arwydd Ysbyty Bronglais

Ionawr 8 2024

Fe ddigwyddodd damwain ffordd yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth y bore yma. Mae'r digwyddiad yn cael ei reoli gan y gwasanaethau brys perthnasol. Ni chafodd unrhyw gleifion na staff eu hanafu yn y ddamwain ond mae gyrrwr y car yn derbyn triniaeth. Mae'r ddamwain yn effeithio ar rai gwasanaethau yn Uned Ddydd Leri.

Os oes gennych apwyntiad yn Uned Ddydd Leri y bore yma, a fyddech cystal â mynychu fel y trefnwyd, ond caniatewch fwy o amser a nodwch nad yw'r maes parcio yn cael ei ddefnyddio. Os bydd eich apwyntiad yn cael ei effeithio, bydd ein timau yn cysylltu â chi. Peidiwch â ffonio'r ysbyty i wirio'ch apwyntiad.

Er mwyn sicrhau ein bod yn gallu trin cleifion yn briodol, rydym yn eich annog i ddewis eich gwasanaethau gofal iechyd yn ofalus iawn, fel ein bod ond yn gweld pobl ag anghenion gofal brys neu  mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Gallwch ddarganfod mwy am wasanaethau amgen yma (yn agor mewn dolen newydd)