Neidio i'r prif gynnwy

Cynlluniau ar waith i leihau'r aflonyddwch posibl gan Storm Goretti

08 Ionawr 2026

Mae timau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn gweithio'n galed i baratoi ar gyfer Storm Goretti er mwyn sicrhau bod yr amhariad ar wasanaethau yn cael ei gadw i'r lleiafswm.

Cynghorir cleifion yn ardal Hywel Dda i fynychu apwyntiadau fel y'u trefnwyd ddydd Gwener, 9 Ionawr, os yw'n ddiogel gwneud hynny. Os bydd y tywydd yn effeithio ar unrhyw apwyntiadau, bydd y Bwrdd Iechyd yn cysylltu â chleifion yn uniongyrchol. Os yw cleifion yn teimlo ei bod yn anniogel iddynt deithio i'w hapwyntiad yfory, cysylltwch â'r adran berthnasol ar y rhif sydd wedi'i gynnwys ar eich llythyr apwyntiad.

Bydd diweddariadau rheolaidd ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol a gwefan Hywel Dda.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn anelu at barhau i gefnogi cleifion yn y gymuned ac mae'n gweithio gyda sefydliadau partner i sicrhau y gall nyrsys ardal fynychu apwyntiadau gyda chleifion sy'n cael gofal gartref. Bydd cleifion sydd fwyaf angen cael eu gweld yn cael eu gweld yn gyntaf.

Dywedodd Keith Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio a Pherfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae ein timau’n gweithio’n galed i sicrhau ein bod wedi paratoi cyn y storm ddisgwyliedig, ac mae hyn yn rhywbeth a wnawn i baratoi ar gyfer pob digwyddiad tywydd garw. Rydym yn adolygu ein lefelau staffio ac yn rhoi mesurau ar waith i gefnogi ein gwasanaethau hanfodol fel bod unrhyw darfu posibl yn cael ei gadw i’r lleiafswm.

“Gall cynllunio ar gyfer digwyddiadau tywydd o’r fath fod yn heriol o ystyried yr ansicrwydd ynghylch ble a sut y bydd Storm Goretti yn effeithio ar ardal Hywel Dda. Mae hyn yn arbennig o wir o ystyried y potensial am wyntoedd cryfion, glaw trwm ac eira ar draws gwahanol rannau o orllewin Cymru. Er bod y rhagolygon yn awgrymu y bydd eira yn cael yr effaith fwyaf ar draws gogledd ardal y Bwrdd Iechyd, rydym yn gwneud cynlluniau wrth gefn ar draws ein holl wasanaethau.

“Mae’r galw am ein gwasanaethau ysbyty a chymunedol yn parhau i fod yn uchel iawn ac rydym yn gofyn i gleifion feddwl yn ofalus cyn mynychu ein Hadrannau Achosion Brys.

“Fel sy’n gyffredin yn ystod misoedd y gaeaf, mae ein system gofal iechyd dan bwysau cynyddol wrth i ni ymateb i’r nifer cynyddol o bobl sydd angen ein cefnogaeth. Mae ein staff yn gwneud gwaith anhygoel, ynghyd â sefydliadau partner a gwirfoddolwyr, wrth ymateb i'r her hon a chynllunio ar gyfer cymhlethdod ychwanegol tywydd garw posibl.”

Mae'r Bwrdd Iechyd yn gofyn i bawb ein helpu ni i'ch helpu chi trwy geisio'r gofal mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion. 111 yw'r lle gorau i chi ddechrau oni bai ei fod yn argyfwng - diffyg anadl, trawiad ar y galon, neu strôc, pan fyddwch chi'n ffonio 999. Am gymorth iechyd meddwl brys 24/7 rydym yn gofyn i gleifion ffonio GIG 111 a dewis opsiwn 2.

Ar gyfer anafiadau, afiechydon ac anhwylderau bach sydd angen triniaeth heddiw ond nad ydynt yn peryglu bywyd, mae gennym ychydig o wasanaethau a all helpu. Ewch i

https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/ysbytai-a-chanolfannau/unedau-man-anafiadau/ (agor mewn dolen newydd)  am fwy o wybodaeth.

Gall llawer o fferyllfeydd cymunedol hefyd ddarparu gwasanaethau galw heibio, anhwylderau cyffredin neu frysbennu a thrin heb apwyntiad. Gallwch ddysgu mwy yma.  https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/ (agor mewn dolen newydd)

Mae canllawiau ar gadw'n ddiogel yn ystod tywydd oer ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma: https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/iechyd-cyhoeddus-amgylcheddol/y-tywydd-ac-iechyd/tywydd-oer/ (agor mewn dolen newydd)

DIWEDD