Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi digwyddiad ymgysylltu ychwanegol meddygfa Talcharn

Dydd Iau, Rhagfyr 21 2023

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn trefnu digwyddiad galw heibio cyhoeddus arall yn Nhalacharn, i roi cyfle pellach i gleifion drafod y cais gan Feddygfa Coach and Horses yn Sanclêr, i gau eu Meddygfa Cangen Talacharn.

Cynhelir y digwyddiad ymgysylltu cyhoeddus hwn rhwng 3.00pm a 6.00pm ddydd Mawrth, Chwefror 6ed 2024 yn Neuadd Goffa Talacharn.

Derbyniodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (HDdUHB) gais gan Feddygfa Coach and Horses yn Sanclêr, i gau eu Meddygfa Cangen Talacharn yn Sir Gaerfyrddin yn gynharach eleni.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mewn ymateb i nifer y cleifion sydd wedi mynegi dymuniad i gymryd rhan yn y digwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd ond nad oeddent yn teimlo eu bod yn gallu codi eu holl bryderon yn y sesiwn ym mis Tachwedd 2023 cynhelir digwyddiad ymgysylltu pellach ar gyfer y bobl hynny nad ydynt wedi cael y cyfle i rannu eu barn hyd yn hyn.

“Bydd yr hyn yr ydym wedi’i glywed gan gleifion a rhanddeiliaid yn y rhaglen ymgysylltu hyd yn hyn yn cael ei lunio gyda’r safbwyntiau o ail ddigwyddiad, a’r digwyddiad olaf, i’w gynnal ddydd Mawrth, 6 Chwefror 2024. Mae hyn yn golygu na fydd argymhelliad ar y ffordd ymlaen yn cael ei ystyried gan y Bwrdd Iechyd tan fis Mawrth 2024.”

Y prif resymau dros y cais i gau meddygfa gangen Talacharn yw:

• Mae'r Feddygfa wedi wynebu problemau mawr o ran cynnal ei weithlu craidd ac nid yw wedi gallu darparu sesiynau meddygon teulu ym Meddygfa Cangen Talacharn ers mis Ebrill 2020.

• Er mwyn diogelu'r ddarpariaeth o wasanaethau meddygol cyffredinol, mae Partneriaid Meddygon Teulu'r Feddygfa Coach and Horses yn Sanclêr wedi gwneud y penderfyniad anodd i wneud cais i gau Meddygfa Cangen Talacharn. Bydd hyn yn caniatáu iddynt ganoli eu staff a’u gwasanaethau, a fydd yn ei dro yn cefnogi cynaliadwyedd y Practis Meddyg Teulu yn y dyfodol.

• Mae heriau ledled y DU o ran recriwtio a chadw meddygon teulu.

DIWEDD