Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi clinigau ffliw galw heibio ar gyfer plant a phobl ifanc

17 Ionawr 2023

Mae clinigau brechu ffliw chwistrell trwyn galw heibio ar gyfer plant 2 a 16 oed (oed ar 31 Awst 2022) yn cael eu cynnal yn y canolfannau brechu torfol yng Nghaerfyrddin ddydd Sul 22 Ionawr 2023 ac yn Dafen, Llanelli ddydd Sul 29 Ionawr 2023.

Gyda salwch y gaeaf ar gynnydd, mae'n bwysig bod rhieni'n sicrhau bod eu plentyn wedi cael eu brechlyn ffliw chwistrell trwyn diogel ac effeithiol.

Dywedodd Dr Joanne McCarthy, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Gall unrhyw un gael y ffliw, ond mae gan blant y gyfradd uchaf o haint, a gall fod yn ddifrifol iddyn nhw.”

“Gall dal y ffliw gynyddu’r siawns o fynd yn ddifrifol wael gyda heintiau eilaidd a gall cymhlethdodau gynnwys broncitis, niwmonia a heintiau clust. Mae tystiolaeth hefyd i awgrymu y gallai’r brechlyn ffliw trwynol helpu i leihau cyfradd heintiau Strep A mewn plant.”

“Mae brechu yn ei gwneud hi’n llawer llai tebygol y bydd eich plentyn yn ddifrifol wael neu angen mynd i’r ysbyty pe bai’n dal y ffliw y gaeaf hwn ac rydym yn gobeithio y bydd y sesiynau galw heibio hyn yn helpu rhieni i gael mynediad at y brechlyn ar gyfer eu plentyn.”

Os oes angen brechiad ffliw chwistrell trwyn ar eich plentyn, galwch heibio i:

Cyn belled nad oes gan eich plentyn dymheredd uchel, gall dderbyn ei frechiad ffliw, hyd yn oed os oes ganddo annwyd neu fân salwch arall.

Ar ôl cael eu brechu, efallai y bydd rhai plant yn cael tymheredd, yn teimlo'n flinedig, yn cael cur pen, yn cael poen yn y cyhyrau neu'n cael llai o archwaeth bwyd am ddiwrnod neu ddau. Gall y chwistrell trwyn achosi i’r trwy redeg neu wedi'i rwystro, ond fel arfer dim ond ychydig ddyddiau y bydd hyn yn para. Mae adweithiau eraill yn llai cyffredin.

Mae mwy o wybodaeth am y brechlyn rhag y ffliw i blant ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma (agor yn dolen newydd).